Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae’r offer monitro a roddwyd mewn lle y mis diwethaf i helpu i nodi achos y craciau i blatfform golygfa Penarth wedi’i niweidio gan fandaliaid, gan oedi gwaith Cyngor Bro Morgannwg i ymdrin â’r broblem.
Y platfform – datblygwyd gan y Cyngor mewn ymateb i’r gwaith a wnaethpwyd gan Gymdeithas Twristiaeth ac Ymwelwyr Penarth ac ar ôl i’r grŵp ofyn i strwythur gael ei roi mewn lle i ddathlu agoriad Llwybr Arfordirol Cymru – yn cynnig golygfeydd ar draws Môr Hafren a Phier Penarth.
Cwblhawyd y gwaith adeiladu ac agorwyd y platfform i’r cyhoedd yn 2015 (roedd gwaith i ychwanegu paneli dehongli a manion eraill wedi’i gynllunio ar gyfer 2016/17). Fodd bynnag, ar ddiwedd 2016 datblygodd craciau bach yn waliau’r strwythur ac felly comisiynwyd gwaith arolygu i nodi’r achos.
Bydd offer monitro ychwanegol nawr yn cael ei roi mewn lle a’i ddiogelu. Disgwylir canlyniadau’r gwaith arolygu yn Chwefror, gan gymryd na fydd unrhyw fandaliaeth bellach i’r offer.