Newyddion Ionawr 2017
Y Newyddion Diweddaraf o'r Cyngor
Mae Swyddog Canlyniadau Cyngor Bro Morgannwg, Debbie Marles, yn croesawu’r holl Gynghorwyr, ac unrhyw ddarpar Gynghorwyr posibl, i gyfres o sesiynau briffio i Ymgeiswyr ac Asiantau ar gyfer yr Etholiadau Llywodraeth Leol sydd i ddod ym mis Mai 2017.
Bydd ardal chwarae Hatch Quarry nawr yn cau y tu allan i oriau golau ddydd wrth i Gyngor Bro Morgannwg frwydro i ymdopi â fandaliaeth barhaus.
Mae trigolyn IFANC Bro Morgannwg wedi cael ei swydd gyntaf ar ôl gweithio fel gwirfoddolwr trwy Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS).
Mae timau gwastraff ac ailgylchu Cyngor Bro Morgannwg wedi cael amser brysur yn casglu coed Nadolig trigolion yn ddiweddar, gyda thrigolion yn gallu eu cyflwyno wrth ymyl y ffordd gyda’u casgliadau gwastraff ac ailgylchu rheolaidd.
Daeth dros 300 o bobl ynghyd yng Nghanolfan Gelf y Memo ddydd Mercher 18 Ionawr 2017 ac fe’u croesawyd gan 56 o ddarparwyr gwasanaethau gwirfoddol oedd am godi eu proffil a recriwtio gwirfoddolwyr.
Ymhellach i lofnodi'r Cytundeb Penawdau’r Telerau rhwng y deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), yn ogystal â Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ym mis Mawrth 2016, mae’n rhaid i bob un o’r awdurdodau lleol gymeradwyo Cabinet Rhanbarthol yn ffurfiol, sy’n cynnwys arweinwyr yr awdurdodau perthnasol.
Efallai bydd nifer o rieni wedi drysu gan y newyddion y gall rheoliadau i seddi clustogau newid cyn bo hir – ym mis Mawrth o bosibl.
Yn dilyn ymgyrch ymgysylltu lwyddiannus a phroses casglu data sylweddol, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg wedi cyhoeddi Asesiad Lles drafft.
Ymunodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Neil Moore, â llu o bwysigion ac aelodau’r cyhoedd i ddathlu dengmlwyddiant Llyfrgell y Barri.
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn rhoi cyngor i fusnesau i fod yn ofalus iawn wrth werthu gwefrwyr e-sigarennau i gwsmeriaid, ar ôl i dros hanner o'r cynnyrch a arolygwyd yn ddiweddar fethu profion diogelwch.
Mae un o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg wedi’i ganmol ar ôl iddo roi gwybod i'r heddlu am ladrad yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot.
MAE tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio'n galed yn trefnu a hyrwyddo ystod o gyrsiau a gweithdai'n ymwneud â chwaraeon a ffitrwydd ledled y Fro.
Mae gwaith wedi dechrau ar ardd gymunedol newydd ac ardal natur yn Cemetery Approach yn y Barri.
Bydd Llyfrgell y Barri yn lansio system mynediad agored newydd gyffrous, gan alluogi aelodau i ddefnyddio'r cyfleusterau y tu allan i oriau staffio arferol.
Bydd Cymunedau yn Gyntaf y Barri, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ail-lansio’r cwrs Foodwise llwyddiannus yn y Flwyddyn Newydd.
Mae'r arwyr di-glod sy’n helpu pobl ifanc y Fro i groesi’n ffyrdd yn ddiogel ddwywaith y dydd wedi cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu.
Mwynhewch antur newydd a dewch i’r Ffair Wirfoddoli Fawr.
Dathlwch gyda’r llyfrgell yn Sgwâr y Brenin ar 13 a 14 Ionawr.
Mae’r offer monitro a roddwyd mewn lle y mis diwethaf i helpu i nodi achos y craciau i blatfform golygfa Penarth wedi’i niweidio gan fandaliaid, gan oedi gwaith Cyngor Bro Morgannwg i ymdrin â’r broblem.
Ymunodd rhai o gwsmeriaid gorau’r Barri â staff am baned a chacen yr wythnos hon er mwyn dathlu dengmlwyddiant y llyfrgell.
Mae dyfodiad blwyddyn NEWYDD yn aml yn annog nifer o drigolion y Fro i addunedu i wella eu ffitrwydd.
Mae Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston yn ceisio bachu grant drwy gynllun Bags of Help Tesco.
Mae grŵp rhedeg NEWYDD SBON ar gyfer dechreuwyr yn cychwyn er mwyn annog mwy o ferched ym Mro Morgannwg i wneud ymarfer corff.
Bydd nifer o sesiynau chwaraeon newydd i bobl ifanc yn cychwyn ym mis Ionawr. Bydd y sesiynau gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol lleol ac yn rhan o gynllun yr awdurdod lleol i annog mwy o bobl ifanc nag erioed i gymryd rhan mewn chwaraeon yn 2017.