Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 14 Mis Rhagfyr 2017
Bro Morgannwg
Bydd y strategaeth yn nodi egwyddorion ar gyfer mynd i’r afael â nifer o faterion gan gynnwys mannau parcio i breswylwyr yn unig a mannau parcio eraill a reoli, gorfodi parcio, rheoli a diogelu meysydd parcio'r Cyngor, parcio i goetsis ym mannau gwyliau a'r posibilrwydd o greu refeniw i helpu i ariannu seilwaith trafnidiaeth y Fro trwy gostau parcio.
Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd: “Mae pryderon mwyaf cyffredin rhai o'n trigolion yn ymwneud â materion parcio. Rydym yn gwybod bod y galw am fannau parcio yn sylweddol uwch na’r mannau sydd ar gael mewn llawer o ardaloedd. Mae hyn yn arwain at dagfeydd mewn llawer o ganolfannau tref ac yn aml yn ystod yr haf ni all pobl gael mynediad at ein mannau gwyliau. “Wrth i niferoedd ceir barhau i gynyddu rhaid i ni ddod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithlon y gallwn a bydd hyn ond yn bosibl trwy ddefnyddio dull cydlynol a strategol. Dyma pam mae’r Cyngor wedi ymgysylltu ag arbenigwyr annibynnol i’n helpu i adolygu'n drylwyr y ffordd rydym yn gweithio ar hyn o bryd. “O ystyried sefyllfa gyllidebol gyfredol y Cyngor, yn amlwg bydd creu refeniw a all helpu ein gwasanaethau trafnidiaeth a phriffyrdd yn rhan o’r drafodaeth. Byddwn yn edrych yn agos at ddull awdurdodau lleol eraill ac yn enwedig ar enghreifftiau llwyddiannus o reoli parcio yng nghanol y dref."
Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd: “Mae pryderon mwyaf cyffredin rhai o'n trigolion yn ymwneud â materion parcio. Rydym yn gwybod bod y galw am fannau parcio yn sylweddol uwch na’r mannau sydd ar gael mewn llawer o ardaloedd. Mae hyn yn arwain at dagfeydd mewn llawer o ganolfannau tref ac yn aml yn ystod yr haf ni all pobl gael mynediad at ein mannau gwyliau.
“Wrth i niferoedd ceir barhau i gynyddu rhaid i ni ddod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithlon y gallwn a bydd hyn ond yn bosibl trwy ddefnyddio dull cydlynol a strategol. Dyma pam mae’r Cyngor wedi ymgysylltu ag arbenigwyr annibynnol i’n helpu i adolygu'n drylwyr y ffordd rydym yn gweithio ar hyn o bryd.
“O ystyried sefyllfa gyllidebol gyfredol y Cyngor, yn amlwg bydd creu refeniw a all helpu ein gwasanaethau trafnidiaeth a phriffyrdd yn rhan o’r drafodaeth. Byddwn yn edrych yn agos at ddull awdurdodau lleol eraill ac yn enwedig ar enghreifftiau llwyddiannus o reoli parcio yng nghanol y dref."
Ymgynghorir â rhandeiliaid allweddol, gan gynnwys masnachwyr lleol, ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd a rhagwelir y cyflwynir adroddiad yn nodi'r egwyddorion ar gyfer strategaeth barcio newydd i gabinet y Cyngor yng ngwanwyn 2018.