Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 11 Mis Rhagfyr 2017
Bro Morgannwg
Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, roedd y 3 enillydd o Ysgol Gynradd y Bont-faen. Y prif enillydd oedd Amy Quance, bl. 6 Ysgol y Bont-faen, daeth Harry Williams o ddosbarth Meithrin yn ail, ac Emily Wallis o’r dosbarth Derbyn ddaeth yn drydydd.
Defnyddir y ddau ddyluniad hyn fel Cerdyn Nadolig digidol Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Cynghorydd John Thomas.
Dywedodd Cynghorydd John Thomas: “Rwyf wrth fy modd cael defnyddio dyluniad dyn eira oer fel fy Nghyfarchiad Nadolig eleni ac rwy’n siŵr y bydd pawb sy’n ei gael wrth eu bodd.”
Y rhai ddaeth yn agos oedd Emrys Bowen; Mattea Griffiths a Ffion Thomas (o Ysgol Sant Curig, Y Barri). Oliver Ingram; Niamh; Mason Cornwall a Mackenzie (o Ysgol Illtud Sant, Llanilltud Fawr) a Lottie Smale; Dylan Bail Braunton; Oscar Birrane; Peter Coe; Seren Morgan a Katie Gardner hefyd o’r Bont-faen.
Dywedodd y Maer: “Roeddwn i wrth fy modd fod Amy rhoi meddwl mawr i’w cynllun ac yn falch iawn taw hwn fydd y cerdyn a gaiff ei argraffu i’w anfon fel fy Nghyfarchiad Nadolig i Gymru ac Ewrop”.
Hoffai’r Maer ddiolch i bawb a gystadlodd a hefyd Mrs Adams, plant a staff Ysgol y Bont-faen.