Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 19 Mis Rhagfyr 2017
Bro Morgannwg
O ddiwrnodau nofio yn yr ysgol i wylio eliffantod yn ymdrochi ym Mae’r Tŵr Gwylio, mae gweithwyr y llyfrgell yn annog mwy o drigolion i ychwanegu at y rhestr.
Cafwyd cymorth gan dîm o wirfoddolwyr i gatalogio’r lluniau, a fydd yn rhan o gasgliad a gaiff ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Y nod yw cynyddu ôl-troed digidol Cymru drwy roi’r lluniau ar-lein.
Dywedodd Uwch Llyfrgellydd Melanie Weeks: “Rydyn ni wrth ein boddau i weld bod y lluniau wedi ysbrydoli atgofion hyfryd, o deithio ar y car rhaffog yn Ynys y Barri i ymweld â Siôn Corn yn eu groto yn siop Dan Evans. Mae dal amser i ymweld â’r arddangosfa ac ychwanegu eich atgofion i’r wal.”
Mae’r oriel yn cynnwys eliffantod yn ymdrochi ym Mae’r Tŵr Gwylio, canol trefi mewn du a gwyn a lluniau o ddosbarthiadau ysgol.
Mae’r arddangosfa ar agor o 9.30yb tan 4.30yp ac yn rhedeg tan Sadwrn 6 Ionawr.
Mi fydd Celf Canolog ar agor bob dydd yn ystod y gwyliau Nadolig oni bai am bob dydd Sul, diwrnod Nadolig, Rhagyr 26 ac ar Ionawr 1.
Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau yn Gelf Ganolog, ewch i’r wefan.