Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 04 Mis Rhagfyr 2017
Bro Morgannwg
Gan ddechrau wrth gabanau’r traeth ar y Promenâd, rhedodd y rhedwyr gwrs 2k neu 5k o gwmpas yr ynys ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr.
Syniad Mark Ellis, Swyddog Buddsoddi a Chynhwysiant Cymunedol, oedd defnyddio gwisg ffansi i hyrwyddo’r Banc Bwyd, ac roedd 54kg werth o fwyd wedi cael eu cyfrannu.
Mae Ynys y Barri wedi bod yn cynnal rasys parc am ddim ers dros ddwy flynedd, a gofynnwyd i bobl roi’n garedig i Eglwys Deuluol Coastlands.
Meddai Mark Ellis, : “Hoffwn ddiolch o waelod calon i Ras y Parc Ynys y Barri a Chyfarwyddwyr y Ras, Ian a Claire Thorne, am eu cefnogaeth ac am hyrwyddo'r syniad. Mae’r ymateb wedi bod yn wych, a thrwy helpu chwaer-brosiectau fel The Big Wrap a Baby Basics, mae'r rhoddion wedi tyfu a thyfu. “Hoffwn weld Ras y Banc Bwyd yn cael ei chynnal bob blwyddyn a phwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni ambell i bysen, oren, tomato a phin-afal yn cymryd rhan flwyddyn nesa.”
Meddai Mark Ellis, : “Hoffwn ddiolch o waelod calon i Ras y Parc Ynys y Barri a Chyfarwyddwyr y Ras, Ian a Claire Thorne, am eu cefnogaeth ac am hyrwyddo'r syniad. Mae’r ymateb wedi bod yn wych, a thrwy helpu chwaer-brosiectau fel The Big Wrap a Baby Basics, mae'r rhoddion wedi tyfu a thyfu.
“Hoffwn weld Ras y Banc Bwyd yn cael ei chynnal bob blwyddyn a phwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni ambell i bysen, oren, tomato a phin-afal yn cymryd rhan flwyddyn nesa.”
Mae banc bwyd y Fro yn Tennyson Road, Colcot, yn sefydliad elusennol dielw sy’n dosbarthu bwyd i’r bobl hynny sy’n ei chael hi'n anodd prynu digon o fwyd i osgoi newyn.
Mae chwe chanolfan ledled y Fro lle gall pobl adael pecynnau bwyd.
I gael rhagor o wybodaeth am roi eitemau i’r Banc Bwyd, cysylltwch â Mark Ellis ar 07826 020707 neu e-bostiwch MarkEllis@valeofglamorgan.gov.uk
Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth am Ras y Parc Ynys y Barri.