Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 12 Mis Rhagfyr 2017
Bro Morgannwg
Mae’r Datblygwyr Next Colour Ltd wedi'u dewis i wireddu project i adeiladu nifer o fwytai o safon ar y safle.
Next Colour Ltd fu’n gyfrifol am y gwaith o adnewyddu sinema'r 1930au yn Oyster Wharf ym Mwmbls i safon arbennig ac mae’r Cyngor yn galonogol y caiff gwaith datblygu o ansawdd tebyg ei gyflawni yn yr achos hwn.
Mae hyn yn gam arall tuag at adfywio Ynys y Barri yn dilyn gwaith gwella sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Yn rhan o hynny, cafodd y lloches Edwardaidd Rhestredig Gradd II ei uwchraddio, cafodd cyfleusterau toiledau modern eu darparu a chafodd cabannau traeth unigryw newydd eu creu.
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’n bleser gan y Cyngor gyhoeddi’r cynnig cyffrous newydd hwn. Bydd cyflwyno bwytai o safon yn Ynys y Barri'n hwb arall i'r ardal a fydd yn helpu i’w hyrwyddo fel lleoliad gwyliau glan môr heb ei ail. Rydym ni'n gobeithio y bydd yn gwneud y lleoliad yn fwy apelgar byth i drigolion ac i ymwelwyr. “Mae’r Cyngor wedi neilltuo cryn dipyn o adnoddau i uwchraddio'r Ynys dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n galonogol gweld buddsoddiad preifat yn yr ardal yn sgil yr ymrwymiad hwnnw.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Next Colour, James Morse: “Mae’n bleser gennym ni fod Cyngor Bro Morgannwg wedi'n penodi i ailddatblygu'r hen ystafelloedd newid uwchben Trwyn Nell. Mae’n safle gwych ar un o draethau baner las gorau Cymru. “Rydyn ni’n bwriadu datblygu clwstwr o fwytai glan môr gyda golygfeydd godidog dros y bae. Bu gwaith adfywio sylweddol yn y Barri yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'n bwriad yw dod â rhywbeth arbennig i'r arfordir. Y nod yw ehangu apêl gwyliau yn y Barri drwy gydol y flwyddyn a bydd cynlluniau mwy manwl yn cael eu datblygu yn y Flwyddyn Newydd."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Next Colour, James Morse: “Mae’n bleser gennym ni fod Cyngor Bro Morgannwg wedi'n penodi i ailddatblygu'r hen ystafelloedd newid uwchben Trwyn Nell. Mae’n safle gwych ar un o draethau baner las gorau Cymru.
“Rydyn ni’n bwriadu datblygu clwstwr o fwytai glan môr gyda golygfeydd godidog dros y bae. Bu gwaith adfywio sylweddol yn y Barri yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'n bwriad yw dod â rhywbeth arbennig i'r arfordir. Y nod yw ehangu apêl gwyliau yn y Barri drwy gydol y flwyddyn a bydd cynlluniau mwy manwl yn cael eu datblygu yn y Flwyddyn Newydd."
Cafodd y Cyngor ei gynghori gan Paul Tarling yn Jones Lang LaSalle Limited a chafodd Next Colour ei gynghori gan David Blyth o Ymgynghorwyr Eiddo BP2 a Phillip Morris o EJ Hales.