Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 19 Mis Rhagfyr 2017
Bro Morgannwg
O brynu’r twrci hyd at storio’r cig sydd yn weddill, mae nifer o gynghorion hylendid bwyd y gallwch eu dilyn i ddiogelu eich anwyliaid dros gyfnod yr ŵyl.
“Bob blwyddyn, mae tua 1m o achosion o wenwyn bwyd yn y DU. Y dull hawsaf o ddiogelu eich teulu y Nadolig hwn yw sicrhau eich bod yn storio bwyd a'i goginio yn ddiogel. Rydym wedi llunio ein canllaw ‘Trafod Twrci’, sy’n cynnig cynghorion ar oeri, glanhau, coginio ac osgoi croeshalogi, tra ar yr un pryd yn egluro rhywfaint ar y wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor.” - Dywed Dr Kevin Hargin, Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir gan Fwyd yn yr ASB
“Bob blwyddyn, mae tua 1m o achosion o wenwyn bwyd yn y DU. Y dull hawsaf o ddiogelu eich teulu y Nadolig hwn yw sicrhau eich bod yn storio bwyd a'i goginio yn ddiogel.
Rydym wedi llunio ein canllaw ‘Trafod Twrci’, sy’n cynnig cynghorion ar oeri, glanhau, coginio ac osgoi croeshalogi, tra ar yr un pryd yn egluro rhywfaint ar y wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor.” - Dywed Dr Kevin Hargin, Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir gan Fwyd yn yr ASB
“Gall coginio’r pryd Nadolig yn aml achosi straen a chymryd llawer o amser, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer grŵp mawr o bobl. Gall hyn arwain rhai cwsmeriaid i dorri corneli drwy beidio â golchi dwylo wedi cyffwrdd â chig amrwd a pheidio â choginio’r twrci’n ddigonol. Gall twrci amrwd sydd heb ei goginio ddigon beri gwenwyn bwyd a all olygu canlyniadau difrifol yn enwedig i blant, pobl sydd eisoes yn sâl a phobl hŷn. Mae’n bwysig cofio taw’r broses goginio sy’n lladd y bacteria yn y twrci. Ni all golchi twrci wneud hyn – mewn gwirionedd, bydd y germau yn gwasgaru ar hyd y lle wrth i’r dŵr dasgu. “Dyna pam ein bod yn cefnogi neges yr Asiantaeth Safonau Bwyd i’ch helpu chi i goginio eich aderyn tymhorol gyda hyder y Nadolig hwn.” - Dywedodd y Cyng. Dhanisha Patel, Cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
“Gall coginio’r pryd Nadolig yn aml achosi straen a chymryd llawer o amser, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer grŵp mawr o bobl. Gall hyn arwain rhai cwsmeriaid i dorri corneli drwy beidio â golchi dwylo wedi cyffwrdd â chig amrwd a pheidio â choginio’r twrci’n ddigonol.
Gall twrci amrwd sydd heb ei goginio ddigon beri gwenwyn bwyd a all olygu canlyniadau difrifol yn enwedig i blant, pobl sydd eisoes yn sâl a phobl hŷn. Mae’n bwysig cofio taw’r broses goginio sy’n lladd y bacteria yn y twrci. Ni all golchi twrci wneud hyn – mewn gwirionedd, bydd y germau yn gwasgaru ar hyd y lle wrth i’r dŵr dasgu.
“Dyna pam ein bod yn cefnogi neges yr Asiantaeth Safonau Bwyd i’ch helpu chi i goginio eich aderyn tymhorol gyda hyder y Nadolig hwn.” - Dywedodd y Cyng. Dhanisha Patel, Cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch bwyd y Nadolig hwn, ewch i www.food.gov.uk neu dilynwch @foodgov ac @SRS_Wales ar Twitter am gyngor trwy gydol cyfnod y dathlu.