Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 06 Mis Rhagfyr 2017
Bro Morgannwg
Cowbridge
Hon oedd yr ysgol orau o’i math yng Nghymru yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau diweddar.
Mae’r canllaw’n rhoi'r ysgol gyfun Bro Morgannwg, o flaen Ysgol Gyfun Radur o Gaerdydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.
Mae lle'r Bont-faen ar frig y tabl yn dilyn dod yn bedwerydd y llynedd.
Daw’r newyddion ar ôl i’r ysgol weld 60.4 y cant o fyfyrwyr Lefel A yn cael graddau A* i B a 42 y cant o ddisgyblion TGAU yn cael graddau A*.
“Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn i Ysgol Gyfun y Bont-faen yn dilyn canlyniadau gwych yn yr arholiadau TGAU a Lefel A. Chwarae teg iddynt – mae’r teitl Ysgol Uwchradd Wladol Gymreig y Flwyddyn The Sunday Times yn un arbennig. Fe ddylai pawb yn yr ysgol fod yn falch iawn. Mae’r anrhydedd yn dyst i waith caled y staff a’r disgyblion a hoffwn longyfarch cymuned gyfan yr ysgol.” - Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: