Addurno Traeth Ynys y Barri â Siwmper Nadolig Fawr
Cafodd ymwelwyr a heriodd oerfel Traeth Ynys y Barri fynd i hwyl yr Ŵyl yn gynharach wythnos yma wrth ddod ar draws y siwmper Nadolig enfawr yn y tywod i nodi Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant i godi arian.
Daeth Achub y Plant ynghyd ag artist ‘cylchoedd tywod’ Sir Benfro, Marc Treanor, i nodi’r digwyddiad drwy greu dyluniad siwmper Nadolig unigryw ar draethau yn Sir Fôn, Ceredigion, Sir Benfro a Bro Morgannwg.
“Pan gysylltodd Achub y Plant â mi i ail-greu Siwmper Nadolig ar draeth, achubais ar y cyfle i helpu. Nid yw traethau’n draddodiadol yn cael eu cysylltu â’r Nadolig, felly rwy’n edrych ymlaen at yr her o weithio ar draethau Cymru ym mis Rhagfyr, a chefnogi elusen wych sy’n helpu plant o bob cwr o’r byd yn ogystal ag yma yng Nghymru.” - Marc Treanor, Artist

Mae Diwrnod Siwmper Nadolig yma am y chweched flynedd yn olynol ar ddydd Gwener 15 Rhagfyr ac mae’n disgwyl i dros 5 miliwn o bobl ar draws y DU gymryd rhan i helpu i godi arian am blant agored i niwed ym mhedwar ban byd. Mae’n hawdd cymryd rhan drwy gofrestru yn christmasjumperday.org, drwy wisgo siwmper a chyfrannu £2.
Ymunodd plant ysgol leol Sant Baruc a Chennad Achub y Plant yng Nghymru, cyn-gyflwynwraig S4C a Thywydd HTV Jenny Ogwen sy’n byw yn y Barri, staff a chefnogwyr yr elusen â Marc wrth y traeth i’w helpu i greu’r gwaith celf.
“Mae’n wych cael cymorth artistiaid talentog ac enwogion i hyrwyddo Diwrnod Siwmper Nadolig yng Nghymru. Gallai’r holl arian a godir helpu plentyn sy’n byw mewn gwersyll ffoaduriaid gael dillad i’w cadw’n gynnes dros y gaeaf, ein helpu i brynu bwyd maethlon i’w teulu cyfan, neu greu man diogel i roi cyfle i blant fod yn blant eto.
Gallai hefyd helpu ein gwaith mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, yn cefnogi teuluoedd drwy ein rhaglen waith.” - Louise Davies, Pennaeth Achub y Plant Cymru
Gall pobl roi £5 yn uniongyrchol i gronfa Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant drwy neges destun drwy anfon: TEAMSTCYMRU i 70050.
I gofrestru i gymryd rhan ar ddydd Gwener 15 Rhagfyr a chael pecyn codi arian am ddim ewch i christmasjumperday.org.