Cost of Living Support Icon
Pauline and Rhian

Yr Ymwelwyr Iechyd Anorthrech

Roedd yn bleser gan yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Janice Charles, groesawu dau ymwelydd iechyd o raglen Dechrau’n Deg Cyngor Bro Morgannwg i Barlwr y Maer.

 

Cymerodd Pauline Crooke a Rhian Gibbon ran mewn Ras Cwrs Rhwystrau ym Mharc Margam. Roedd y ras yn fwy o gwrs rhwystrau na ras, ac yn brawf o stamina, ffitrwydd a'r gallu i oddef mwd!  

 

Cododd y merched £156.00 ar gyfer Elsusen Hanfodion Babanod y Maer a dywedodd y ddwy fod y profiad wedi bod “yn her, ond yn hwyl gydag awyrgylch wych ac rydym yn falch fod wedi'i chwblhau! 

 

“Alla i ddim canmol digon i Pauline a Rhian am eu cymorth – ac rydw i’n gwybod y bydd Hanfodion Babanod yn ddiolchgar dros ben” – Y Maer, y Cynghorydd Janice Charles