Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae canlyniadau heddiw yn dangos fod disgyblion y Fro unwaith eto eleni wedi gwneud yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol gyda 96.9% o ddisgyblion yng Nghymru yn pasio â graddau A* - G a 62.8% yn cyrraedd graddau A* - C.
Ysgol Gyfun y Bont-faen oedd yr ysgol a berfformiodd orau yn y Fro am yr ail flwyddyn o’r bron, wrth i 99.8% o ddisgyblion basio â graddau A*- G, 86.2% ag A* i C a 40.6% a graddau A* neu A.
Llwyddodd 99.4% o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Stanwell, Penarth i basio â graddau A* - G ac f e basiodd 80.7% â graddau A* - C. Yn Ysgol St Cyres fe basiodd 97.4% â graddau A* - G.
Llwyddodd 96.7% o ddisgyblion Ysgol Llanilltud Fawr i gyrraedd A* - G a 61.7% i gyrraedd A* - C.
Llwyddodd yr unig ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, i barhau â’u llwyddiant cyson wrth i 97.5% o ddisgyblion basio â graddau A* - G a 74.3% â graddau A* - C.
Yn y cyfamser fe lwyddodd disgyblion ysgolion Bryn Hafren, Ysgol Gyfun y Barri ac Ysgol Uwchradd Babyddol Richard Gwyn i sicrhau cyfraddau pasio A* - G o 93.6%, 95.4% a 97.5% a graddau A* - C o 46.7%, 53.1%
a 64.6%.
Dywedodd y Cyng Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’n wych clywed am y canlyniadau rhagorol unwaith eto, ac wedi eu holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n siŵr y bydd nifer o ddisgyblion yn mwynhau’r dathlu heddiw. “Yn sgil newid o ran sut y mae papurau TGAU yn cael eu gosod a graddau yn cael eu rhoi does dim modd gwneud cymhariaeth ystyrlon rhwng canlyniadau eleni a rhai’r llynedd. Fodd bynnag, yr hyn y maen nhw yn ei ddweud wrthym yw fod gennym athrawon a staff cymorth rhagorol yn gweithio yn y Fro. “Fel awdurdod lleol rydym yn edrych ymlaen i fanteisio ar yr arbenigedd hwn wrth i ni barhau i gefnogi diwygiadau Llywodraeth Cymru a galluogi’r rhai hynny sy’n gweithio yn ein hysgolion i chwarae rhan fwy canolog wrth gynllunio a chyflawni polisi cenedlaethol.”
Dywedodd y Cyng Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant:
“Mae’n wych clywed am y canlyniadau rhagorol unwaith eto, ac wedi eu holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n siŵr y bydd nifer o ddisgyblion yn mwynhau’r dathlu heddiw.
“Yn sgil newid o ran sut y mae papurau TGAU yn cael eu gosod a graddau yn cael eu rhoi does dim modd gwneud cymhariaeth ystyrlon rhwng canlyniadau eleni a rhai’r llynedd. Fodd bynnag, yr hyn y maen nhw yn ei ddweud wrthym yw fod gennym athrawon a staff cymorth rhagorol yn gweithio yn y Fro.
“Fel awdurdod lleol rydym yn edrych ymlaen i fanteisio ar yr arbenigedd hwn wrth i ni barhau i gefnogi diwygiadau Llywodraeth Cymru a galluogi’r rhai hynny sy’n gweithio yn ein hysgolion i chwarae rhan fwy canolog wrth gynllunio a chyflawni polisi cenedlaethol.”
Mae’r arholiad newydd a gyflwynwyd eleni yn rhoi prawf gwahanol ar wybodaeth a setiau sgiliau na’r arholiadau blaenorol sy’n golygu na ellir gwneud cymhariaeth ystyrlon.
Bydd canlyniadau eleni yn gosod gwaelodlin newydd at ddibenion cymharu; ni fydd data tueddiadau ar gael tan 2019.