Neuadd bentref newydd i gael ei hadeiladu yn Aberogwr wrth i ymddiriedolwyr dderbyn £128,000
15 Awst 2017
Caiff neuadd pentref newydd ei hadeiladu yn Aberogwr ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu a gwaith caled gan bobl leol.
Mae Cyngor Bro Morgannwg a’r Gymdeithas Neuaddau Pentref wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i roi tir y Cyngor i'r Gymdeithas i’w galluogi i adeiladu'r neuadd.
Cafodd yr ymddiriedolwyr £128,000 gan Gyllid Datblygu Cymunedau Gwledig tuag at gostau’r gwaith adeiladu.

Bydd y Cyngor hefyd yn rhoi £287,000 o gyllid Adran 106 i'r neuadd a fydd yn talu am offer chwarae a thirlunio cysylltiedig, gan y datblygwyr Barrat, David Wilson Homes a Waterstone Homes.
Mae Busnesau Lleol megis Rockwool ac Euroclad hefyd wedi cynorthwyo trwy ddarparu deunyddiau.
Meddai’r Cyng Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio:
“Rwy’n falch bod Ogwr yn cael Neuadd Bentref lle y gall pobl leol fwynhau gwasanaethau ar drothwy eu drysau. Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r gymdeithas er mwyn sicrhau cyllid a chytundebau tir.”
Gobeithio y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Hydref eleni.
Lleolir y neuadd ar safle'r bloc toiledau nas defnyddir sy'n gyferbyn â'r prif siopau yn y pentref.
Meddai Eugene Roberts, Cadeirydd Sefydliad Neuadd Bentref Ogwr:
“Mae’r pentref wedi bod yn gweithio ers degawdau i ariannu neuadd y mae angen mawr amdani, rydym mor falch o gyflawni'r nod hwn ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu a chwblhau’r neuadd.
"Hoffem ni ddiolch i Gyngor y Fro, Jane Hutt AS, Carwyn Jones AS Prif Weinidog Cymru, Alun Cairns ac wrth gwrs pawb yn ein cymuned am eu cefnogaeth.”
Bydd y neuadd yn manteisio ar gyllid trwy Raglen Ddatblygu Wledig 2014-2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.