Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal y seremoni ddydd Gwener 01 Medi, yn y Ganolfan Ddinesig am 10.00am, ger Cofadail y Llynges Fasnachol. Bydd y seremoni yn cofio ac yn talu teyrnged i forwyr ddoe a heddiw.
Bydd awdurdod y Fro’n chwifio’r Lluman Coch ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol er mwyn coffáu ac anrhydeddu’r morwyr masnachol dewr a wnaeth yr aberth eithaf, ac yn arbennig y rhai a fu’n gwasanaethu yn y ddau ryfel byd ac mewn rhyfeloedd ers hynny.
Eleni, mae Seafarers UK wedi ymgyrchu dros gael y Lluman Coch – baner swyddogol Llynges Fasnachol y DU – yn chwifio ar adeiladau cyhoeddus a pholion baner amlwg yn y DU. Rydym wedi gwahodd cynghorau plwyf, tref, cymuned, dinas a bwrdeistref i gymryd rhan, yn ogystal ag awdurdodau lleol haen uwch a llywodraethau. Unwaith eto, bydd Cyngor Tref y Barri yn cael ei gynrychioli gan y Lluman Coch a fydd i’w weld yn y Neuadd Goffa a thrwy fynychu’r deyrnged ger Cofadail y Llynges Fasnachol.
“Rwy’n gobeithio’n arw y byddwch yn cefnogi’r ymgyrch i goffau’r aberth, canu clod i ddewrder a chefnogi dyfodol criwiau diymhongar ein Llynges Fasnachol." - Llywydd Seafarers UK, EF Iarll Wessex
Crëwyd Cofeb y Llynges Fasnachol yn y Barri ym 1996 er mwyn coffáu morwyr masnachol y Barri a Bro Morgannwg a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.