Cost of Living Support Icon

Derek yn Dod â Heulwen i’r Fro 

Mae hyd yn oed hoff ddyn tywydd Cymru yn galw heibio i Ddepo'r Alps i gasglu ei fagiau ailgylchu!

 

Cafodd staff yn Nepo’r Alps ymweliad annisgwyl yr wythnos yma gan y dyn tywydd lleol, Derek Brockway.  Yn ystod ei ymweliad i gasglu cadi gwastraff cegin a bagiau ailgylchu, bachodd staff ar y cyfle i gael llun gydag un o gewri'r wlad. 

 

Derek collecting his recycling containers

 

derek-tweet-welsh

 

Os yw Derek yn gallu ailgylchu, gallwch chi hefyd! Mae modd casglu bagiau yn y Swyddfeydd Dinesig a Depo’r Alps. Dewisodd Derek gadi gwastraff cegin traddodiadol a bag ailgylchu pwysol ffansi! Beth wnewch chi ei ddewis?

  • Bagiau Ailgylchu Glas
  • Bocsys a Rhwydau Ailgylchu
  • Pecynnau a Bagiau Gwastraff Cegin
  • Bagiau Gwastraff Gardd Gwyrdd
  • Cadis Hylendid 
        Mae enwogion bellach yn defnyddio bagiau ailgylchu’r Fro, ac rydym yn disgwyl y bydd ein stoc yn isel, felly dewch ar unwaith a dechrau ailgylchu heddiw! 

 

Bagiau a Chynwysyddion Ailgylchu