Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dywedodd y Cyng. Thomas: “Mae’r Fargen Ddinesig yn gyfle sylweddol a chyffrous i’r Fro a’r rhanbarth cyfan. O ganlyniad, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn buddsoddi ein hamser a’n hymdrechion yn cynnal trafodaethau ystyrlon o ran dyfodol y sir. “Mae’r unig faes awyr rhyngwladol yng Nghymru ac Ardal Fenter Sain Tathan gerllaw o bwys mawr i’r economi genedlaethol ac mae eu lleoliad yng nghanol y Fro yn golygu y gallai’r Fargen Ddinesig sicrhau buddion anferthol i’r Fro. “Mae penderfyniad Aston Martin i ddewis y Fro fel lleoliad ei safle cynhyrchu diweddaraf yn y DU a’r ffaith bod Renishaw yn bwriadu ehangu ei weithrediadau ger cyffordd 34 yr M4 yn dangos bod y Fro yn gallu denu buddsoddiad sylweddol. “Yr her nawr yw sicrhau bod y Fro yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn natblygiadau rhaglen fuddsoddi'r Fargen Ddinesig. Mae hyn yn rhywbeth y mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo iddo ac y byddaf yn gweithio'n ddiflino i'w sicrhau.”
Dywedodd y Cyng. Thomas: “Mae’r Fargen Ddinesig yn gyfle sylweddol a chyffrous i’r Fro a’r rhanbarth cyfan. O ganlyniad, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn buddsoddi ein hamser a’n hymdrechion yn cynnal trafodaethau ystyrlon o ran dyfodol y sir.
“Mae’r unig faes awyr rhyngwladol yng Nghymru ac Ardal Fenter Sain Tathan gerllaw o bwys mawr i’r economi genedlaethol ac mae eu lleoliad yng nghanol y Fro yn golygu y gallai’r Fargen Ddinesig sicrhau buddion anferthol i’r Fro.
“Yr her nawr yw sicrhau bod y Fro yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn natblygiadau rhaglen fuddsoddi'r Fargen Ddinesig. Mae hyn yn rhywbeth y mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo iddo ac y byddaf yn gweithio'n ddiflino i'w sicrhau.”