App Realiti Estynedig (RE) Parc Gwledig Porthceri
Mae cymaint i’w weld a’i wneud ym Mharc Gwledig Porthceri, a bydd rhannau o’r parc yn dod yn fyw gyda'r app hwn wrth i chi gamu allan a chrwydro.
- Gan ddefnyddio realiti estynedig (RE), gallwch gwrdd â Henry Ringham, y defnyddiwyd ei gwmni i drwsio’r draphont ar ôl iddi ddechrau dadfeilio
- Dysgwch am y diodydd hudol a grëwyd gan Ann Jenkin, gwrach Bwthyn Cliffwood, a’r ffordd y gallai fod wedi swyno pobl.
- Sylwch ar Felin Lifio Cwmcidi yn ymddangos ar ben ei sylfeini a gweld sut y’i gweithredwyd gan ddefnyddio’r pwll dwy ffrwd uwch ei ben
There are no images in the search content table for folder: 23236
Mae gan yr app lwybrau casglu wedi'u sbarduno gan GPS sy'n eich galluogi chi i grwydro’r parc a chasglu rhith-blanhigion a rhith-anifeiliaid ar hyd y daith wrth i chi gadw llygaid allan am rai go iawn.
Mae modd i chi gasglu mythau a chwedlau o bob rhan o’r parc wrth ddilyn y llwybr straeon a cheir llwybr casglu i blant o amgylch ardal y dolydd hefyd, sy’n eu galluogi nhw i gasglu ffeithiau am wahanol anifeiliaid wrth iddynt redeg o gwmpas.
Ar ôl i chi gasglu cymeriadau, straeon, anifeiliaid a phlanhigion y realiti estynedig, caiff y rhain eu cadw yn eich casgliad er mwyn i chi eu gweld unrhyw bryd yr hoffech.