Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rhoddodd yr arweinwyr dinesig, a oedd yno i ddathlu llwyddiant tîm parciau’r Cyngor am ennill saith gwobr baner werdd ar gyfer y Fro am yr ail flwyddyn yn olynol, ddwy araith o’r frest i grŵp cymunedol Bangladeshaidd o Birmingham a Grŵp Sgowtiaid 1af Llandrindod a oedd yn mwynhau diwrnod ar yr Ynys.
Daeth y grŵp Ektu Onnorokom ag wyth coets wedi’u llenwi â 400 o’i aelodau i’r Ynys yn rhan o ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu yn ystod yr haf.
Y gweithredydd cymunedol a’r cyflwynydd teledu Bangla Mokis Monsur sy’n byw yng Nghaerdydd oedd y gŵr gwadd yn y digwyddiad.
Dywedodd: “Mae’r grŵp yn ymweld ag atyniadau gwahanol ledled y wlad a gwnes i argymell ei fod yn dod i Ynys y Barri gan ei bod yn lle gwych i blant a theuluoedd. Yn rhan o’r diwrnod llawn hwyl i’r teulu bu gweithgareddau chwaraeon, digwyddiad diwylliannol, seremoni wobrwyo, cinio ac wrth gwrs cafwyd llawer o hwyl ar y reidiau ac ar y traeth. Roeddem ni’n meddwl y byddai’n ddiwrnod gwych i bawb, ac roedd hynny’n sicr yn wir!”
Dywedodd y Cyng. Thomas: “Mae’n wych gweld bod gwaith caled ein timau rheoli cyrchfannau a thwristiaeth yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad. Gallwn anghofio weithiau nad oes modd i bawb gyrraedd yr arfordir yn hawdd, a thrwy gwrdd â phobl a deithiodd am 4 awr i gael diwrnod ar y traeth, cawsom ein hatgoffa o ba mor lwcus ydyn ni fod gennym lan môr o'r radd flaenaf ar garreg ein drws."
Dywedodd y Cyng. Thomas:
“Mae’n wych gweld bod gwaith caled ein timau rheoli cyrchfannau a thwristiaeth yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad. Gallwn anghofio weithiau nad oes modd i bawb gyrraedd yr arfordir yn hawdd, a thrwy gwrdd â phobl a deithiodd am 4 awr i gael diwrnod ar y traeth, cawsom ein hatgoffa o ba mor lwcus ydyn ni fod gennym lan môr o'r radd flaenaf ar garreg ein drws."