Llwyddiant i fyfyrwyr lefel a ym mro morgannwg
17 Awst 2017
Mae myfyrwyr chweched dosbarth ledled Bro Morgannwg wedi cael eu canlyniadau Lefel A o’r diwedd ac maent, unwaith eto, wedi cyflawni'n well na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Eleni gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y disgyblion rhagorol gyda 28.1% o fyfyrwyr Lefel A CBAC Bro Morgannwg yn cyflawni’r graddau A* ac A uchaf; bron 5% yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Yn gyffredinol, cyflawnodd 97.9% o ddisgyblion y Fro raddau A*- E o gymharu â chyfartaledd Cymru o 97.7%.
Gwelodd Ysgol Gyfun y Barri welliant sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n cyflawni'r graddau uchaf.
Cyflawnodd 22% o ddysgwyr raddau A* neu A, i fyny o ddim ond 7% yn 2016. Cyflawnodd 77% o ddisgyblion yr ysgol raddau A* – C, cynnydd sylweddol ar gyfanswm y llynedd o 53%. Ar y cyfan, cyflawnodd 99% o ddisgyblion yr ysgol raddau A* - E.
Cyflawnodd 35%, 32% a 28% o ddisgyblion Ysgol Gyfun Stanwell, Ysgol Gyfan y Bont-faen ac Ysgol Bro Morgannwg raddau A* - A.
Parhaodd berfformiad cryf cyffredinol y Fro ar Lefel AS, gan gyflawni’r un ganran o 89.7% o raddau A – E, ond gan gynyddu nifer y graddau A o 21% i 21.7%.
Ar y lefel hon, perfformiwr gorau’r sir oedd Ysgol Gyfun y Bont-faen a welodd fwy na thraean o ddysgwyr yn cyflawni graddau A, cynnydd o 8% ers y llynedd, a 74% o ddisgyblion yn cyflawni graddau A – C.
Gwelwyd y gwelliant gorau yn Ysgol Gyfun y Barri, lle cyflawnodd 36% o’r disgyblion raddau A – C, sydd hefyd yn gynnydd o 8% o 2016, a chyflawnodd 85% o’r holl ddisgyblion raddau A – E, i fyny gan 22% o’r haf diwethaf.
Dywedodd Paula Ham, Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau: “Bydd yna ddathlu mawr ledled y Fro heddiw wrth i fyfyrwyr chweched dosbarth longyfarch ei gilydd ar eu llwyddiannau.
“I fyfyrwyr Lefel A, dyma’r goron ar flynyddoedd o waith caled, a dylent fod yn falch o’u cyflawniadau. I’r rheini sy’n agor eu canlyniadau AS, mae’r llinell derfyn ar y gorwel nawr!
“Mae canlyniadau’r Fro eleni wedi pwysleisio ein safonau addysgol rhagorol. Mae athrawon a staff cymorth yn gweithio'n ddiflino gydol y flwyddyn i roi'r llwyfan gorau posibl i'n pobl ifanc i lwyddo, ac maen nhw hefyd yn haeddu dathlu heddiw."