Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae un cwmni’n galw eu hunain yn Shore Claims ac un arall yn Claims Solutions Brighton.
Maent yn gofyn am fanylion banc er mwyn gwneud taliad yn tro y maent yn honni y bydd yn eu galluogi i brosesu ad-daliad treth gyngor.
Mae hyn yn dilyn digwyddiadau tebyg y llynedd.Gofynnir i unrhyw un y cysylltir â nhw fel hyn hysbysu’r heddlu a’r Cyngor, naill ai trwy ffonio 01446 709564 neu trwy e-bostio CouncilTax@valeofglamorgan.gov.uk
Ceir canllaw hefyd gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth. Y rhif ffôn yw 03454 040505.
Dywedodd cynrychiolydd y Cyngor: “Rydyn ni’n bryderus ar ôl clywed adroddiadau am bobl yn cysylltu â nifer o breswylwyr y Fro yn cynnig ad-daliad treth gyngor iddynt yn gyfnewid am dâl.
"Mae’n rhaid i ni bwysleisio mai twyll yw pob enghraifft o rywun yn cysylltu â chi felly ac ni ddylai pobl roi gwybodaeth bersonol mewn unrhyw amgylchiadau.”