Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Fel rhan o gynllun y Cyngor, Merched yn Ymarfer Corff, daeth nifer o ferched ifanc y Fro â’u helmedau a’u beiciau i’r sesiwn feicio ar gyfer lansio’r cwrs i ddechreuwyr.
Mae’r cwrs – sy’n cael ei gynnal bob dydd Sadwrn ym mis Ebrill rhwng 10:00am a 12:00pm – yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Beicio Cymru a Breeze Rides, ac yn cynnig cyfle i fenywod a merched dros 10 oed i wella eu sgiliau beicio mewn ardal gaeedig, cyn mynd ymlaen i feicio o amgylch Parc Cosmeston ei hun.
Dywedir bod y sesiynau yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gwella eu hyder ar ei feic, ac anogir mamau a’u merched i fynychu.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno cadw lle ar sesiwn gysylltu â thîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae y Cyngor ar 01446 704808, neu e-bostio Rachel Shepherd ar rshepherd@valeofglamorgan.gov.uk.
Sefydlwyd y cynllun Merched yn Ymarfer Corff er mwyn annog mwy o ferched i gymryd rhan yn fwy aml mewn chwaraeon, ac sydd wedi gweld y Cyngor yn cynnal sesiynau glowminton, rhedeg a dawnsio yn y gorffennol.