Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae’r Achubwyr Bywyd bellach nôl ar ddyletswydd a disgwylir torfeydd mawr dros y pedwar diwrnod, gan ddechrau ddydd Gwener, dechrau tymor yr haf.
Er mwyn sicrhau taith mor esmwyth ag y bo modd, dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol o drefniadau traffig penodol fydd ar waith dros Ŵyl y Banc.Ni fydd y Waterfront Consortium a thai Persimmon bellach yn cwblhau’r gwaith ar gyffordd Cosy Corner tan fis nesaf felly bydd y trefniant dros dro â chonau yn parhau fel ag y mae.
Dylai’r rheiny sy’n dod o gyfeiriad y gorllewin gymryd y ffordd draddodiadol dros y sarn i faes parcio Trwyn Nell. Cynghorir modurwyr o’r dwyrain i deithio ar y ffordd gyswllt newydd, gan osgoi cyffordd Cosy Corner, i fynd i faes parcio Harbour Road. Bydd arwyddion i’w harwain ar hyd y ffordd.
Os digwydd lefelau anarferol o uchel o draffig, bydd swyddogion o’r Cyngor yno i gyfarwyddo’r cerbydau.
Atgoffir ymwelwyr bod disgwyl iddynt ufuddhau i ymgyrch “Parcio Taclus!” y Cyngor, sy’n anelu i osgoi parcio anghyfreithlon ac anghyfrifol all fod yn beryglus ac yn destun rhwystredigaeth i breswylwyr a busnesau.
Dyma ddolen i’r canllawiau hynny: http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/highways_and_engineering/Parking/Parking-Enforcement.aspx
Am fwy o wybodaeth ar gyrchfan Ynys y Barri, dilynwch y ddolen hon:http://www.visitthevale.com/en/Be-Inspired/Sea-Surf-Sand/Planning-your-Group-Visit-to-Barry-Island.aspx