Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni.
Ein bwriad yw bod yn gymwynasgar ac yn dryloyw wrth ymgysylltu â chwsmeriaid drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn ceisio rhoi ateb clir a chryno i ymholiadau lle bo hynny'n bosibl. Rydym yn osgoi defnyddio jargon ac ysgrifennu mewn iaith glir.
Pan nad yw materion yn syml, byddwn yn trosglwyddo'r ymholiad i adran benodol. Oherwydd hyn, efallai y bydd oedi cyn ymateb i gwsmeriaid.
Ni fyddwn yn datgelu unrhyw fanylion cyswllt staff i gwsmeriaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Os gofynnwch am gael eich rhoi mewn cysylltiad yn uniongyrchol ag aelod o staff, cewch eich cyfeirio at Cyswllt Un Fro neu flwch post / ffôn yr adran. Ein nod yw trosglwyddo unrhyw adborth neu sylwadau cadarnhaol a wneir am ein timau.
Ein nod yw ymateb i sylwadau neu ymholiadau dilys, ond efallai y bydd achlysuron lle rydym yn colli rhai, yn enwedig ar adegau prysur. Os byddwn yn methu eich ymholiad, peidiwch â meddwl ein bod yn eich anwybyddu'n fwriadol.
Os yw eich ymholiad yn ddifrifol, yn frys, yn fanwl neu'n cynnwys manylion personol, rydym yn eich cynghori i gysylltu â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid yn uniongyrchol ar 01446 700111.
Efallai y bydd adegau pan fyddwn yn penderfynu peidio ag ymateb i gwsmeriaid. Er enghraifft, pan gaiff mater ei godi yr ymdriniwyd ag ef yn y gorffennol neu pan nad oes ymholiad / pryder penodol wedi’i godi.
Rydym yn defnyddio ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel mater o drefn yn rhan o'n gwaith ymgynghori. Efallai y byddwn yn cyhoeddi dolenni i ymgynghoriadau neu'n gofyn i chi adael sylwadau neu ymateb i arolwg barn. Lle rydym wedi gwneud hyn, byddwn yn casglu'r holl adborth perthnasol a dilys ac yn sicrhau ei fod yn cael ei drosglwyddo i'r tîm. Ni fyddwn yn ymgysylltu â chi fel mater o drefn ar negeseuon fel y rhain.