Storm Darragh
DIWEDDARIAD: Mae rhybudd tywydd melyn am wynt yn parhau i fod yn ei le tan 6pm ddydd Sul 08 Rhagfyr.
Mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau bellach yn gweithredu fel arfer. Bydd rhai ardaloedd o fewn ein parciau a'n parciau gwledig yn aros ar gau tra bod ein timau yn gweithio i'w gwneud yn ddiogel.
Hoffem ddweud diolch yn fawr i'n timau a'r gwasanaethau brys sydd wedi bod yn gweithio drwy'r penwythnos i glirio coed sydd wedi cwympo, malurion o adeiladau sydd wedi'u difrodi, a chadw'r Fro yn ddiogel.
Hoffem ddiolch hefyd i bawb a helpodd drwy roi gwybod am ddifrod storm yn eu hardal.
Bydd y gwaith glanhau yn parhau dros y dyddiau nesaf. Gallwch barhau i roi gwybod am faterion ar ein gwefan neu drwy ffonio 01446 700111.