Mae Bro Morgannwg yn gartref i bwynt mwyaf deheuol Cymru. Mae'n cynnwys trefi bywiog a phentrefi gwledig, ac ar ei hymyl ceir gogoniant yr Arfordir Treftadaeth.
Mae'r Barri yn dref arfordirol fywiog gyda Stryd Fawr brysur a'r Goodsheds a’r Ardal Arloesi - cyrchfan siopa, bwyta ac ymlacio. Mae Ynys y Barri yn enwog am draethau euraid, difyrrwch teuluol a'i chytiau traeth lliwgar.
Mae Penarth gyferbyn â Bae Caerdydd ac mae'n dref glan môr gain gyda phier Fictoraidd, pafiliwn Art Deco a marina modern. Mae parciau gwych yn cysylltu'r arfordir â chanol y dref draddodiadol gyda'i siopau annibynnol a'i harcêd.
Ystyrir y Bont-faen yn un o leoedd mwyaf ffasiynol Cymru ac mae'n cynnwys siopau a chaffis annibynnol, adeiladau hanesyddol a Gardd Berlysiau. Gerllaw mae cestyll hanesyddol ac mae cefn gwlad hardd y tu hwnt yn gartref i gynhyrchwyr bwyd a diod penigamp.
Mae tref farchnad hanesyddol Llanilltud Fawr yn llawn adeiladau diddorol a chasgliad gwych o gerrig cerfiedig Celtaidd yn Eglwys Illtud Sant. Gerllaw, mae 14 milltir o arfordir treftadaeth gwyllt Morgannwg yn cynnig teithiau cerdded ar ben clogwyni a thraethau sy'n addas ar gyfer archwilio pyllau glan môr, syrffio a chestyll tywod.