Cost of Living Support Icon

Amrywiaeth a Chynhwysiant

 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddileu gwahaniaethu ac annog amrywiaeth ymhlith ein gweithlu.  Ein nod yw y bydd ein gweithlu yn wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas a bod pob cyflogai yn teimlo ei fod yn cael ei barchu ac yn gallu rhoi o’i orau.

 

Rydym am hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bawb yn ein cyflogaeth ac na fyddwn yn gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (LHDTCRh+). Rydym yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu anghyfreithlon ac annheg.  Bydd pob cyflogai, boed yn rhan-amser, yn llawn amser neu dros dro, yn cael ei drin yn deg a chyda pharch.  Bydd dewis ar gyfer cyflogaeth, dyrchafiad, hyfforddiant ac unrhyw fudd arall ar sail dawn a gallu.

 

Addewidion ac Achrediadau Cyflogwyr

Addewid Cyflogwr Amser i Newid

Time to Change Wales logoRydym eisoes wedi llofnodi Addewid Cyflogwr Amser i Newid.

 

Amser i Newid Cymru yw’r ymgyrch genedlaethol gyntaf i chwalu’r stigma a’r gwahaniaethu y mae pobl sydd â salwch iechyd meddwl yn eu hwynebu.

 

Rydym wedi ymrwymo i newid sut rydym yn meddwl, yn ymddwyn ac yn siarad am iechyd meddwl yn y gweithle ac i sicrhau bod ein cyflogeion sy’n wynebu’r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

 

Ynglŷn â’r Addewid Cyflogwr Amser i Newid

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Disability Confident Employer LogoRydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

 

Mae’r cynllun hwn yn cydnabod cyflogwyr sy’n helpu ymgeiswyr anabl i mewn i waith ac sy’n cefnogi cyflogeion pe baen nhw’n dioddef iechyd gwael yn ystod eu bywyd gwaith.

 

O dan y cynllun, rydym yn helpu pobl ag anableddau mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cyfweliadau hygyrch ac ystyriaeth flaenorol wrth recriwtio.

 

Rydym yn falch o fod yn aelod o'r cynllun hwn gan ei fod yn dangos ein bod wedi ymrwymo i gynhwysiant ac amrywiaeth yn y gweithle.

 

Ynglŷn â Chyflogwyr Hyderus o ran Anabledd 

Pencampwr Amrywiaeth Stonewall

Stonewall Diversity Champion LogoRydym yn aelod o gynllun Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall.

 

Rydym yn gweithio gyda Stonewall Cymru i gael gafael ar gymorth, arweiniad, adnoddau ac adborth i lunio ein polisïau, ein diwylliant a'n harferion i wneud ein gweithle yn fwy cynhwysol o ran LHDTC+.

 

Rydym hefyd yn cyflwyno i Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn flynyddol i asesu a myfyrio ar gynwysoldeb ein gweithle.

 

Ynglŷn â Stonewall a'r Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth

Statws Arloesi Efydd Race Equality Matters

Vale of Glamorgan REM Bronze TrailblazerRydym wedi derbyn Statws Arloesi Efydd Race Equality Matters.

 

Efydd yw'r cam cyntaf yn y gyfres Arloesi sy'n tynnu sylw at sefydliadau sy’n rhoi atebion effeithiol ar waith i ysgogi cydraddoldeb hiliol. Mae hyn ar gyfer sefydliadau sydd wedi rhoi atebion Race Equality Matters ar waith a/neu sydd wedi gweithredu ar anghydraddoldeb hiliol mewn ffyrdd eraill.

 

Wedi'i bennu gan banel annibynnol o arbenigwyr, bob un â phrofiad byw o anghydraddoldeb hiliol, mae'r Statws Arloesi Efydd yn #MwyNaGwobr sy'n gwasanaethu'r diben i:

  • Nodi'r hyn sy'n cael effaith ystyrlon

  • Annog y rhai sy'n cael effaith i gynnal y momentwm

  • Ysbrydoli eraill i wneud mwy 

  • Tystiolaeth o ymrwymiad sefydliad i weithredu, nid dim ond siarad am fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol

 

Tystysgrif Arloesi Efydd REM Bro Morgannwg

 

Statws Arloesi Safe Space Plus Race Equality Matters

REM Safe Space PLUS TrailblazerStatws Arloesi Safe Space PLUS REM Rydym wedi derbyn statws Arloesi Safe Space Plus Race Equality Matters.

 

Mae tair prif elfen i'r Safe Space Plus:

  •  

    Hysbysu ac Addysgu: Mae Uwch Arweinwyr yn gofyn cwestiynau i gydweithwyr o ethnigrwydd amrywiol efallai na fyddant yn teimlo'n gyfforddus i'w gofyn yn gyhoeddus rhag swnio'n anwybodus neu'n sarhaus.

  • Deall: Mae cydweithwyr o ethnigrwydd amrywiol yn codi materion allweddol anghydraddoldeb hiliol sy'n benodol i'w sefydliad ac y maent yn credu y bydd mynd i'r afael â nhw yn cael effaith ystyrlon.

  •  Gweithredu: Mae Uwch Arweinwyr yn penderfynu pa fater(ion) i weithredu arnynt a'u datblygu mewn partneriaeth â chydweithwyr o ethnigrwydd amrywiol, gan osod targedau ac ymrwymo i fonitro cynnydd.

 

 Ynglŷn â Safe Space Plus Race Equality Matters

 

 

Rhwydweithiau Staff   

Mae ein gwaith ym maes cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yn mynd o nerth i nerth, gyda sefydlu ein rwydweithiau: 

Rhwydwaith GLAM (LHDTCRh+) 

GLAM logoRhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ yw GLAM sy'n: 

  • gweithio i gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr LHDTCRh+ yn y gweithle

  • codi ymwybyddiaeth a gwelededd cyffredinol o'i waith

  • sy’n darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol

Mae’r rhwydwaith yn cwrdd bob mis i gynnig cymorth, cyfle i drafod problemau sy’n effeithio ar bobl LHDT+ ac adnabod ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o faterion LHDTCRh+.

Rhwydwaith Amrywiol

Diverse Group LogoMae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol yn gam cadarnhaol i'n sefydliad o ran hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.

 

Nod y rhwydwaith yw: 

  • Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithle

  • Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith, a’i wneud yn weladwy

  • Creu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol

Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.

Abl (Rhwydwaith Anabledd)

ABL LogoAbl yw'r rhwydwaith staff i bobl ag anableddau. Mae Abl yn cydnabod y gall anabledd olygu gwahanol bethau i wahanol bobl, felly bydd yn cynnwys ac nid yn eithrio, gan eich cefnogi ym mha bynnag ffordd rydych yn disgrifio eich anabledd.

 

Mae Abl yn anelu at: 

  • Gynnig cefnogaeth a gwybodaeth i staff ag anableddau, yn ogystal â rhoi arweiniad i reolwyr a chynghreiriaid

  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wahanol anableddau a chyflyrau iechyd er mwyn helpu i wella profiadau a pherthnasoedd

  • Llunio a dylanwadu ar bolisïau a gwasanaethau drwy fod yn grŵp cynrychioliadol ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori

  • Hybu a chefnogi staff ag anableddau yn y gweithle i sbarduno deilliannau gwell a hyrwyddo llais staff ag anableddau o fewn y Cyngor

Bydd Abl yn gweithio gyda'r rhwydweithiau staff eraill i hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd, ymwybyddiaeth a derbyniad ledled Bro Morgannwg.

Hyrwyddwyr Lles

Mae'r Hyrwyddwyr Lles yn hyrwyddo gweithgareddau, gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl a lles i staff ledled y sefydliad.

 

Nod Hyrwyddwyr Lles yw:

  • Annog cydweithwyr i gymryd rhan ym mentrau/heriau lles y Cyngor

  • Trefnu digwyddiadau a gweithio ar y cyd â Hyrwyddwyr eraill trwy’r Cyngor a sefydliadau eraill

  • Dangos esiampl a hyrwyddo diwylliant iach yn y gweithle

  • Atgyweirio cydweithwyr i wasanaethau a chymorth perthnasol