Cefais fy ysbrydoli i ddechrau dysgu Cymraeg yn dilyn ymweliad ag un o’n hysgolion cyfrwng Cymraeg newydd. Roedd y dosbarth derbyn (y rhan fwyaf ohonynt o gefndiroedd Saesneg eu hiaith) eisoes yn sgwrsio yn Gymraeg ac yn canu’r anthem Genedlaethol i mi. Roeddwn yn teimlo embaras na allwn ymuno!
Penderfynais ddechrau dosbarth lefel mynediad gyda Dysgu Cymraeg yn y Fro. Roedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn llawer o hwyl ac yn parhau i fod yn bleserus iawn pan symudon ni ar-lein yn ystod y pandemig. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl newydd ac wedi dod i adnabod cydweithwyr eraill ar draws y Cyngor. Rydw i wedi ffeindio bod y tiwtoriaid yn gefnogol iawn ac yn hynod o amyneddgar, does dim byd yn ormod iddyn nhw.
Erbyn hyn rwy’n gallu cyfathrebu’n well ag amrywiaeth o gydweithwyr sy’n siarad Cymraeg ac yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn fwy nid yn unig yn y gwaith ond mewn bywyd bob dydd. Mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau neu i gwrdd yn anffurfiol am sgwrs y tu allan i'r dosbarthiadau. Gallwch chi wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch ac mae sefyll arholiadau yn ddewisol hefyd.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r lefel nesaf ym mis Medi, rydym bob amser yn cael hwyl yn ein gwersi ac rwy’n gweld ei fod yn atal straen go iawn. Yn fwy na dim arall, gallaf nawr ganu'r Anthem Genedlaethol gyda hyder a balchder yn y gemau rygbi rhyngwladol.