Y Cyngor yn Ennill Status Awdurdod Arloesi gan Race Equality Matters
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn statws Awdurdod Arloesi Race Equality Matters (REM) i gydnabod ei waith yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol drwy greu Mannau Diogel.
Mae Mannau Diogel yn fenter gan Race Equality Matters, wedi’i chyd-greu â phobl sydd wedi dioddef hiliaeth, sy'n darparu amgylchedd diogel lle gall pobl a allai fod yn rhy anghyfforddus fel arall gael sgyrsiau gonest am y pwnc hwn.
Wedi'i greu i gydnabod sefydliadau sy'n gyrru newid ystyrlon yn y maes cydraddoldeb hiliol, mae statws Awdurdod Arloesi REM yn cael ei bennu gan banel annibynnol o arbenigwyr, oll â phrofiad byw o anghydraddoldeb hil yn y gweithle.
Mae dod yn Awdurdod Arloesi’n golygu bod y gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud wedi arwain at newid ac effaith drwy’r sefydliad cyfan, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol a dod yn sefydliad mwy amrywiol, cynhwysol a chyfartal.
Barn y panel oedd bod gwaith y Cyngor i sicrhau bod lleisiau o leiafrifoedd ethnig yn cael eu clywed mewn cyfarfodydd Mannau Diogel yn "glir ac yn sylweddol" a rhoddwyd y sgôr uchaf bosibl i’r Cyngor am y ffordd mae’n sicrhau bod awgrymiadau ynghylch ffyrdd o wella yn cael eu rhoi ar waith.
Gyda dim ond 64 y cant o ymgeiswyr yn ennill statws Awdurdod Arloesi, mae’n amlwg bod y beirniaid yn gwbl o ddifri’ wrth gyflwyno’r statws, a bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi ennill y statws pwysig hwn. Mae'r newyddion hyn yn dangos ein bod yn arwain y ffordd o ran creu newid.
"Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â rhagfarn a gwahaniaethu ar hyd a lled y Fro. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod angen i ni hefyd hyrwyddo gwrth-hiliaeth trwy ein polisïau a sicrhau ein bod yn gwrando ac yn dysgu gan gymunedau sydd wedi eu lleiafrifoli.
"Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth o'r camau breision y mae'r cyngor yn eu gwneud yn ei daith tuag at Fro decach a mwy cyfartal."
Porwch drwy'r swyddi gwag presennol, sefydlwch rybuddion swyddi a gwnewch gais ar-lein.