Ni wneir didyniad person annibynnol yn y sefyllfaoedd canlynol:
1. Ni wneir didyniadau am unrhyw berson annibynnol os ydych chi neu’ch partner:
- Wedi’ch cofrestru’n ddall
- Yn cael y Lwfans Gweini
- Yn cael yr elfen ofal o’r Lwfans Byw i'r Anabl neu elfen byw bob dydd y Taliadau Annibyniaeth Bersonol
2. Ni wneir didyniadau o un ai’r Budd-dal Tai neu o Ostyngiad y Dreth Gyngor os yw’r person annibynnol:
- Dan 18 mlwydd oed
- Dan 25 mlwydd oed ac yn cael Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm/ Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn seiliedig ar incwm (cam asesu)
- Yn dilyn hyfforddiant seiliedig ar waith i bobl ifanc (Hyfforddiant Ieuenctid gynt) ac yn cael lwfans hyfforddi
- Yn fyfyriwr neu’n fyfyriwr nyrsio llawn amser
- Wedi bod yn yr ysbyty am fwy na 52 wythnos
- Yn y carchar (yn aros prawf neu ar ôl cael dedfryd)
- Fel arfer yn byw yn rhywle arall (ond mae'n rhaid i chi roi ei gyfeiriad parhaol i ni neu byddwn fel arfer yn gwneud y didyniad)
- Yn cael Credyd Pensiwn (un ai’r rhan gwarantedig, y rhan cynilo neu’r ddau)
3. Ni wneir didyniad o Ostyngiad y Dreth Gyngor os yw’r person annibynnol:
- Dan 25 mlwydd oed ac yn cael Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn gysylltiedig ag incwm (prif gam)
- Yn 25 neu hŷn ac yn cael Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm/Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn gysylltiedig ag incwm (prif gam neu gam asesu)
- Yn brentis
- Yn berson ag anabledd meddyliol difrifol
- Yn ofalwr