Cost of Living Support Icon

Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud rheoliadau Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor (CGDG) sy’n ailadrodd rheoliadau presennol 2013/14 gyda’r un disgresiwn ar gael i’r Cyngor.

  

Mae'r cynllun yn dal i ganiatáu hyd at 100% o Gymorth Treth Gyngor i bobl cymwys sy'n gwneud cais, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau ariannol ac amgylchiadau'r cartref. Mae'r Cyngor eisoes wedi ymgynghori â phreswylwyr ynglŷn â'r tri phrif faes dewisol.

 

Ar ôl ymgynghori, penderfynodd y Cyngor:

  • Gadw’r cyfnod talu estynedig ar raddfa safonol o 4 wythnos;
  • Ehangu ôl-ddyddio hawliadau Gostyngiad y Dreth Gyngor y tu hwnt i'r tri mis safonol, i uchafswm o chwe mis.
  • Diystyru’r holl incwm a dderbyniwyd mewn perthynas â Phensiwn Anabledd Rhyfel a Phensiwn Gweddwon Rhyfel wrth gyfrifo a yw unigolyn yn gymwys am Ostyngiad y Dreth Gyngor.

Gall Rheoliadau Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor 2014/15 roi rhagor o wybodaeth ar bob agwedd ar y cynllun gan gynnwys meysydd disgresiwn lleol.

 

Gwnued Gais am Gostyngiad y Dreth Gyngo’r

 

Gallwch wneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor os ydych o oedran gweithio neu’n bensiynwr ac ar incwm isel, p'un a ydych yn ddi-waith neu'n gweithio. Os oes gennych dros £16,000 o gyfalaf neu gynilion, ni fydd gennych hawl i ostyngiad fel arfer.  Nid yw'r terfyn o £16,000 yn berthnasol os ydych ar Warant Credyd Pensiwn.

 

Os ydych chi wedi hawlio neu’n derbyn y Credyd Cynhwysol, gallwch gael help tuag at gostau eich Treth Gyngor gan y Cyngor. 

 

Ni allwch hawlio hyn o fewn eich hawliad Credyd Cynhwysol - rhaid i chi wneud cais ar wahân gyda'r Cyngor.

 

Os nad ydych yn siŵr a ddylech fod yn gwneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r adran Budd-daliadau:

 

  • 01446 709244 

 

Gwnued Gais am Gostyngiad y Dreth Gyngo’r

 

Edrych ar hysbysiad preifatrwydd y cyngor

Taliadau Estynedig

Mewn amgylchiadau penodol, bydd cymorth gyda’r dreth gyngor yn cael ei ehangu am gyfnod hyd at 4 wythnos lle bo cymhwyster i fudd-daliadau penodol yn dod i ben oherwydd:

  • dechrau gwaith cyflogedig neu hunangyflogedig
  • hawliwr yn cynyddu oriau gwaith i 16 awr neu fwy
  • partner yn cynyddu oriau gwaith i 24 awr neu fwy
  • cynyddu incwm i swm sy’n golygu nad yw'r unigolyn yn gymwys ar gyfer Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm) /Lwfans Anabledd Difrifol/ Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn seiliedig ar gyfraniadau) 

 

Y nod yw helpu i ysgogi pobl sy'n ddi-waith neu sydd â salwch neu anabledd hirdymor i geisio gwaith, ennill mwy o incwm neu weithio mwy o oriau. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer taliadau estynedig:

  • Rhaid i’r hawliwr gredu y bydd ei swydd neu'r oriau cynyddol yn para o leiaf pum wythnos
  • Nid yw’r hawliwr neu ei bartner wedi bod yn gymwys ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – yn seiliedig ar incwm (LCCh [SI]), Lwfans Ceisio Gwaith – yn seiliedig ar incwm (LCG [SI]), Lwfans Ceisio Gwaith – yn seiliedig ar gyfraniadau (LCG –C]) neu Gymhorthdal Incwm yn barhaus am o leiaf 26 wythnos (neu unrhyw gyfuniad o’r rhain)

Cyn dechrau gwaith mae’n rhaid i’r cwsmer neu bartner fod wedi bod yn derbyn LCCh (SI), LCG (SI) neu Gymhorthdal Incwm.

Mae’r hawliwr neu’r partner wedi bod yn gymwys ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar gyfraniadau), Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol ac unwaith eto mae disgwyl i’r swydd neu’r oriau cynyddol bara am 5 wythnos neu fwy ac maent wedi bod yn gymwys ar gyfer y budd-dal uchod yn barhaus am 26 wythnos.

 

Yn y ddau achos mae’n rhaid i’r budd-dal ddod i ben gan eu bod wedi dechrau gweithio neu gynyddu eu horiau.

 

Bydd y Cyngor yn parhau i ganiatáu taliadau estynedig hyd at uchafswm o 4 wythnos oherwydd mae hyn yn ysgogi pobl i weithio neu i geisio mwy o oriau a bydd unrhyw hawliwr sy’n symud i fyd cyflogaeth yn debygol o dderbyn ei daliad cyntaf gan ei gyflogwr newydd o fewn y terfyn amser.

Diystyru’r Pensiwn Rhyfel

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn diystyru'r pensiynau Gweddwon Rhyfel ac Anabledd Rhyfel wrth gyfrifo incwm ar gyfer budd-daliadau Tai a'r Dreth Gyngor.

 

Bydd y Cyngor yn parhau i ddiystyru'r pensiynau Gweddwon Rhyfel ac Anabledd Rhyfel wrth asesu incwm Cymorth y Dreth Gyngor

 

Ôl-ddyddio Budd-daliadau

Y rheolau presennol ar gyfer ôl-ddyddio cwsmer oed gwaith yw:

  • Mae’n rhaid i’r hawliwr gyflwyno cais ysgrifenedig
  • Mae’n rhaid i’r hawliwr ddangos rheswm da parhaus dros fethu â gwneud hawliad yn gynt
  • Nid oes modd ôl-ddyddio’r hawliad fwy na chwe mis cyn dyddiad y cais ysgrifenedig.

 

Mae tribiwnlysoedd a'r llysoedd wedi egluro 'rheswm da’. Dyma’r prif egwyddorion:‘Mae’n cynnwys unrhyw ffaith a fyddai o bosib wedi achosi person rhesymol i ymddwyn yn yr un modd â'r hawliwr', ond mae disgwyl iddo gymryd camau rhesymol i bennu ei hawliau.

 

Mae Cyfraith Achosion yn nodi bod achos da fel arfer yn berthnasol i bedwar categori:

  • Roedd yr hawliwr mor sâl (yn gorfforol neu’n feddyliol) neu fel arall yn methu hawlio ac yn methu â gofyn i rywun arall wneud ar ei ran.
  • Rhoddodd rhywun y dylai'r hawliwr fod wedi gallu dibynnu arno (megis yr Awdurdod Lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, asiantaeth cynghori ac eraill o bosibl) gyngor anghywir iddo gan ddweud na fyddai’n gallu cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor. 
  • Roedd rhesymau da dros yr hawliwr yn credu na fyddai'n gallu hawlio, nid dim ond esgeulustod.
  • Gwnaeth rhyw ffactor allanol atal yr hawliwr rhag cyflwyno hawliad (e.e. methiant y gwasanaeth post, wedi’i garcharu)

 

Bydd y Cyngor yn dal i ganiatáu budd-daliadau wedi’u hôl-ddyddio am gyfnod o hyd at 26 wythnos.Byddai’n anodd i’r cwsmer brofi ‘rheswm da’ yn barhaus am gyfnod hirach na hynny.Yn ogystal, yn ôl rheolau’r Budd-dal Tai, ceir ôl-ddyddio am uchafswm o 26 wythnos yn unig. Felly byddai’r ddau gynllun wedi’u halinio.Os nad yw'r ddau gynllun yn cael eu halinio, byddai'n ddryslyd i'r cwsmer oherwydd byddai'n anodd egluro'r gwahaniaethau rhwng y ddau gynllun.