Hafan >
Cyngor >
I benderfynu ar unrhyw ad-daliadau Teth gyngor neu Ardrethi Annomestig
I benderfynu ar unrhyw ad-daliadau Teth gyngor neu Ardrethi Annomestig
Gan fod taliadau'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn cael eu talu ymlaen llaw gan amlaf, pan fydd newid yn eich amgylchiadau gall fod credyd ar eich cyfrif. Gellir ad-dalu'r credydau hyn i chi unwaith y byddant wedi'u gwirio.
Bydd ad-daliad yn cael ei brosesu dim ond os yw eich cyfrif mewn credyd ac nad oes unrhyw symiau eraill o’r dreth gyngor neu daliadau eraill i’r awdurdod lleol yn ddyledus gennych.
Os byddwch yn symud o fewn y fwrdeistref, bydd unrhyw gredyd ar eich cyfeiriad blaenorol fel arfer yn cael ei drosglwyddo i'ch cyfeiriad newydd. Os ydych wedi symud y tu allan i'r fwrdeistref a'ch bod wedi gordalu, yna bydd ad-daliad yn cael ei drefnu.
Rhesymau posibl dros gael credyd treth gyngor:
-
Mae disgownt wedi’i roi
-
Mae eithriad wedi’i roi
-
Wedi atal bod yn atebol dros dalu’r dreth gyngor
-
Mae gostyngiad y dreth gyngor wedi’i roi
-
Mae band yr eiddo wedi newid
-
Talu gormod o’r dreth gyngor
Rhesymau posibl dros gael credyd ardrethi annomestig:
Sylwer mai cais yn unig yw'r ffurflen hon ac nad yw'n gwarantu ad-daliad treth gyngor neu ardrethi annomestig.
Bydd pob cais am ad-daliad yn destun gwiriad dilysu. Os yw'r cais wedi’i gymeradwyo, byddwn yn cyhoeddi ad-daliad trwy BACS yn unig.
Cyfrifon y dreth cyngor mewn dau enw neu fwy - Os oes dau enw ar gyfrif y dreth gyngor a bod angen talu dim ond un o’r bobl hynny, yna bydd angen awdurdodiad ysgrifenedig gan y person nad yw’n cael ei dalu. Lawrlwythwch ffurflen gais bapur am ad-daliad a’i dychwelyd atom gyda llofnod pob un o ddeiliaid y cyfrif.
Ad-daliadau i ysgutorion - Lawrlwythwch y ffurflen gais bapur am ad-daliad. Ar ôl ei chwblhau, sylwer bod yn rhaid i chi ddarparu copi o’r ewyllys, grant profiant neu lythyr gweinyddu i gadarnhau eich bod yn un o ysgutorion yr ystâd i wneud cais am ad-daliad.
Dim ond ar ôl derbyn un o'r dogfennau tystiolaeth uchod y caiff ad-daliadau eu gwneud i gyfrifon ysgutorion. Bydd methu â darparu'r dystiolaeth hon yn arwain at atal yr ad-daliad.
Cwblhewch, sganio / ffotograffu a lanlwytho ffurflenni papur a thystiolaeth gan ddefnyddio'r gwymplen 'amrywiol' ar yr e-ffurflen 'Ymholiad Treth Gyngor'.
Gwnewch cais ad-daliad ar lein