Premiymau
Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023 cytunwyd yn unol ag adran 12a a 12b Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel a fewnosodwyd gan Adran 139 Deddf Tai (Cymru) 2014, o 1 Ebrill 2023 y byddai Premiwm Treth Gyngor o 100% yn dod i rym ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ei ddodrefnu (Gwag Hirdymor) am gyfnod o 12 mis neu fwy. Yn ogystal, cytunwyd y byddai Premiwm Treth Gyngor o 100% yn dod i rym o 1 Ebrill 2024 ar gyfer eiddo a ystyrir yn rhai a feddiannir o bryd i'w gilydd (y cyfeirir atynt yn aml fel ail gartrefi).
Ailddatganwyd y ddau benderfyniad yma yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar y 6 Mawrth 2024. Yn y cyfarfod hwn cytunwyd hefyd y byddai’r Premiwm Treth Gyngor ar gyfer eiddo gwag a heb eu dodrefnu a fu felly am 24 mis neu fwy yn cynyddu i 150% o 1 Ebrill 2024.
Yn unol â Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau i Symiau Uwch) (Cymru) 2015, ceir 7 dosbarth o annedd lle gellir tynnu premiwm (am gyfnodau amrywiol). Mae’r rhain fel a ganlyn:
-
Dosbarth 1: Anheddau sy'n cael eu marchnata i’w gwerthu neu pan fo cynnig i brynu'r annedd wedi’i dderbyn. Mae’n rhaid i'r eiddo fod yn cael ei farchnata am bris rhesymol o'i gymharu ag eiddo tebyg yn yr un ardal ac mae gan yr eithriad derfyn amser o flwyddyn (yn berthnasol i eiddo gwag hirdymor a rhai a feddiannir o bryd i’w gilydd)
-
Dosbarth 2: Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gosod neu pan fo cynnig i'w rhentu wedi’i dderbyn. Mae’n rhaid marchnata'r annedd i'w osod am rent rhesymol o'i gymharu ag eiddo tebyg yn yr un ardal ac mae gan yr eithriad derfyn amser o flwyddyn (yn berthnasol i eiddo gwag hirdymor a rhai a feddiannir o bryd i’w gilydd)
-
Dosbarth 3: Anecsau sy'n ffurfio rhan o'r brif annedd neu'n cael eu trin fel rhan o'r brif annedd (sy'n berthnasol i eiddo gwag hirdymor ac eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd)
-
Dosbarth 4: Anheddau a fyddai'n unig neu'n brif breswylfa rhywun pe na baent yn byw yn llety'r lluoedd arfog (yn berthnasol i eiddo gwag hirdymor a rhai a feddiannir o bryd i’w gilydd)
-
Dosbarth 5: Lleiniau carafanau a feddiannir ac angorfeydd cychod (sy'n berthnasol i eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd yn unig)
-
Dosbarth 6: Cartrefi tymhorol neu lety gwyliau lle gwaherddir meddiannaeth barhaol neu gydol y flwyddyn (sy'n berthnasol i eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd yn unig)
-
Dosbarth 7: Anheddau sy'n gysylltiedig â gwaith (sy'n berthnasol i eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd yn unig)
Os ydych wedi gorfod talu Premiwm Treth Gyngor ond credwch fod eich eiddo yn perthyn i un o'r dosbarthiadau uchod, cwblhewch ein ffurflen ymholiad cyffredinol
Treth Gyngor (valeofglamorgan.gov.uk/cy) sy’n cynghori o dan ba ddosbarth o eiddo mae eich un chi'n disgyn, ac yn darparu tystiolaeth ategol.