Cost of Living Support Icon

Dyledion a chasglu dyledion

Mae’n bosib talu Treth y Cyngor cyfan ar un tro, neu mewn rhandaliadau rheolaidd. Mae’n bosib talu gyda debyd uniongyrchol

 

Nid yw’n bosib i’r cyngor ddarparu gwasanaethau lleol i chi heb Dreth y Cyngor.

 

Byddwn yn gweithio gyda chi i geisio creu cynllun talu, ond ni fyddwn yn cytuno i drefniant a fydd yn golygu eich bod yn mynd ymhellach i ddyled.  Mae’n bosib fod gennych yr hawl i dalu llai, neu i dderbyn arian a fydd yn gallu eich helpu i dalu’r dreth.  Byddwn yn ceisio gwneud hyn ar eich cyfer.

 

Rhaid i chi dalu’r rhandaliadau ar eich bil hyd yn oed os oes gennych gwestiwn am y tâl, eich Band Treth Gyngor, Gostyngiad y Dreth Gyngor, Gostyngiadau neu Eithriadau.  Os oes gennych gwestiwn dylech gysylltu â’r Adran Refeniw ar unwaith, ond nes bydd yn cael ei ateb a bod bil diwygiedig wedi cael ei anfon atoch, rhaid i chi dalu yn ôl y bil gwreiddiol. Os bydd diwygiad yn arwain at ordaliad caiff ei ddychwelyd i chi.

 

Cyngor am ddyledion

Mae’r sefydliadau yma’n cynnig cyngor am ddyledion:

 

  • Gwasanaeth Cyngor Ariannol

    Cyngor di-duedd, am ddim, gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

     

    Rhadffôn 0300 500 5000

     

    Gwasanaeth Cyngor Ariannol

  • Citizens Advice Bureau (CAB) 

    Cymorth i ddatrys trafferthion ariannol, cyfreithiol ac amrywiol

     

    119 Broad Street Barry

     

    0845 120 3756

     

    Citizens Advice

  • National Debtline

    National Debtline is a charity which gives money and budgetary advice entirely free.

    This is because National Debtline is part of a charity called the Money Advice Trust.  

     

    0808 808 4000

     

    National Debtline

  • Step Change

    Free, confidential advice and support to anyone who is worried about debt

     

    Free phone: 0800 138 1111

     

    Step Change Debt Charity

     

  • Money Advice Trust (Stop the Knock)

    Free, independent money advice to people with debt problems

     

    Tel: 020 7489 7796

     

    Money Advice Trust

  • Gwifren Gymorth Dyled Tai Cymru

    Ar gyfer unrhyw un sy'n cael trafferth i dalu'r morgais neu'r rhent

     

    Rhadffôn: 0800 107 1340

     

    Gwifren Gymorth Dyled Tai Cymru

  • Undebau Credyd

    Cymorth yng Nghymru i ddechrau busnes neu brosiect sy'n ystyried pobl a'r amgylchedd yn gymaint â'r elw.

     

    Rhadffôn: 0808 1454550

     

    Undebau Credyd 
  • Shelter Cymru

    Prf elusen pobl a chartrefi Cymru, yn gweithio dros bobl mewn angen ym maes cartrefi.

     

    Blwch PO 5002, Caerdydd

    Rhif ffôn: 0845 075 5005

     

    Shelter Cymru

  • Ymddiriedolaeth Cymorth Dyledwyr

    Elusen heb fod er elw (SC041902) lle mae cynghorwyr cymwys, cyfeillgar ar gael i'ch cynghori ar sut i ddatrys problemau dyled.

     

    Rhadffôn: 0800 085 0226

     

    Ymddiriedolaeth Cymorth Dyledwyr

 

Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n talu?

 

  • Methu â thalu’r rhandaliadau

     

    • Os ydych yn talu’n rheolaidd ond yn hwyr, neu’n methu un rhandaliad mi fyddwn yn anfon rhybudd fod angen i chi dalu o fewn saith diwrnod.

    • Os nad ydych yn talu, neu’n talu’n hwyr eto ar ôl i ni eich atgoffa am yr ail dro, mi fyddwn yn anfon rhybudd eich bod wedi colli’r hawl i dalu mewn rhandaliadau. Byddwch chi wedyn yn gorfod talu’r cyfan ar unwaith.

    • Os nad ydych yn talu’r cyfan, mae gennym yr hawl i gymryd camau cyfreithiol, sef Gwŷs Llys Ynadon.

     

  • Gwŷs Llys Ynadon, a gwrandawiad mewn llys

     

    • Mae’n bosib y byddwn yn anfon gwŷs os nad ydych yn talu’r rhandaliadau’n llawn o fewn y terfyn amser, ac wedi anwybyddu’r rhybuddion a anfonwyd atoch.

    • Ar ôl anfon y wŷs, os nad yw’r ddyled yn cael ei thalu’n llawn (gan gynnwys cost y wŷs) yna byddwn ni'n rhoi cais gerbron am Orchymyn Atebolrwydd (Liability Order) sydd hefyd yn cynnwys costau. Bydd y cais yma’n digwydd yn eich absenoldeb, os ydych yn dewis peidio ymddangos yn y llys.

    • Unwaith mae gwŷs wedi ei hanfon, a Gorchymyn Atebolrwydd wedi ei gyhoeddi, mae’n RHAID i chi roi manylion eich cyflogwr ac enillion cyn y byddwn yn ystyried unrhyw drefniadau i dalu’r ddyled.

    • Os nad ydych yn medru talu’r ddyled, eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â’r Adran Gyllid er mwyn creu trefniadau talu newydd.

    • Os ydych yn talu drwy siec, mae’n rhaid i ni ei dderbyn o leiaf saith diwrnod gwaith cyn yr achos llys, neu mae’n debyg y bydd y Cyngor yn parhau i ofyn am Orchymyn Atebolrwydd a chostau.

    • Mae gennych yr hawl i ymddangos o flaen y llys i esbonio pam rydych yn credu na ddylech chi dalu Treth y Cyngor OND nid yw’r ynadon yn medru ystyried eich gallu i dalu’r Dreth.  Os ydych yn bwriadu ymddangos yn y llys, rydym yn gofyn i chi roi gwybod i ni. Mae’n bosib y byddwch yn ystyried cyngor cyfreithiol cyn ymddangos o flaen y llys.

    • Os ydych yn anghytuno â’r wŷs gyfan, neu unrhyw ran ohoni, eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â’r Cyngor.  Mi fydd raid i chi fynychu’r gwrandawiad os nad ydych yn fodlon â chanlyniad y trafodaethau.

    • Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu mynd i’r llys ar gyfer y gwrandawiad, rydym yn gofyn i chi siarad gyda ni neu’r Ganolfan Cynghori lleol. Mi fyddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys pethau, ond CHI sy’n gorfod cysylltu â ni.  Hyd yn oed os ydym yn dod i gytundeb, mi fyddw3n yn gofyn am y Gorchymyn Atebolrwydd a’r costau yn y gwrandawiad.

    • Nid yw’r rhain yn cael eu derbyn fel amddiffyniad yn y llys ddim yn medru fforddio talu, wedi ceisio am ostyngiad yn y Dreth, er enghraifft Budd-dal Treth y Cyngor, mae achos apêl gerbron ar hyn o bryd, ddim wedi derbyn rhybuddion y cyngor – nid oes raid i’r cyngor brofi eich bod wedi eu derbyn.

     

 

Ar ôl yr achos llys

Os yw’r llys yn cymeradwyo Gorchymyn Atebolrwydd, ac os nad ydych chi wedi talu’n llawn, mi fydd y cyngor yn anfon ffurflen sy’n gofyn am fanylion eich incwm. Mae’n RHAID i chi gwblhau’r ffurflen yma a’i hanfon yn ôl atom. 

 

Os nad ydych yn gwneud hyn, mae yna beryg y byddwch yn gorfod dychwelyd i’r llys ac wynebu dirwy arall.  Os nad ydych yn cydymffurfio, mae yna beryg y byddwn yn anfon y beiliod (bailiffs); chi fydd yn talu am eu hymweliad.

 

  • Taking Control of Goods

     

    • Mae beilïod y cyngor yn dilyn Cod Ymarfer y Beilïod. Maen nhw’n cael trafod eich amgylchiadau, ac yn medru gofyn am daliad neu gytuno ar drefniant ar ôl gosod Ardoll Atalfaeliad (Levy of Distress).  Cofiwch y bydd unrhyw drefniant yn cynnwys costau.  Mae’n bosib y bydd angen i’r beilïod ddod i’ch cartref er mwyn casglu’r ddyled. Os ydych wedi dod i gytundeb â’r beilïod, ac wedi methu â chadw at y cytundeb, mae’n bosib na fydd y beilïod yn barod i lunio cytundeb arall ond mi fydd yn rhaid i chi dalu costau’r cytundeb yna.

       

    • If you have been visited before and have not kept to an arrangement, they will add further costs and may not enter into another arrangement with you.

    • Mi fydd y beilïod yn gofyn i ddod i mewn i’ch cartref i greu rhestr, yr Ardoll Atafaeliad. Mae’n bosib y bydd y beilïod yn cymryd pethau o’ch cartref i’w gwerthu - chi fydd yn talu am gymryd y nwyddau, am eu cadw ac am eu gwerthu.

    • Os nad ydych yn medru talu, mae gan y beilïod dri dewis: nwyddau’n aros yn eich cartref os ydych yn cadw at delerau’r cytundeb, nwyddau’n aros yn eich cartref hyd nes y byddwn yn derbyn taliad neu mae’r amser i’w gwerthu yn cyrraedd, cymryd y nwyddau ar unwaith.

    • Os nad ydych yn cysylltu â’r cyngor, neu os nad oes gennych ddigon o nwyddau i dalu’r ddyled, mi fydd y beilïod yn dychwelyd eich achos i ddwylo’r cyngor.

     

    The Taking Control of Goods (Fees) Regulations 2014

    Enforcement Fees Regulation 4, Table 1 

     

    Taking control of goods costs
     Fee Stage  Fixed Fee % fee for sum exceeding £1,500  
     Compliance Stage     £75.00          0%   
     Enforcement Stage  £235.00      7.5%   
    Sale or Disposal Stage   £110.00  7.5%   
  • Cymryd arian o’ch cyflog neu fudd-dal

     

     
    • Mae gan y cyngor yr hawl i orchymyn eich cyflogwr i anfon canran o’ch cyflog at y cyngor hyd nes y bydd y ddyled a’r costau wedi eu talu.  Mae gan eich cyflogwr yr hawl i fynnu eich bod yn talu eu costau nhw am wneud hyn.

    • Mae’n RHAID i chi roi eich manylion cyflog i ni.  Os nad ydych yn gwneud hyn, byddwch yn derbyn dirwy o £500 ar y mwyaf a £1000 am ddweud anwiredd.

    • Os ydych yn derbyn budd-daliadau, mae gan y cyngor yr hawl i gymryd rhan o’ch budd-daliadau.

       

  • Methdaliad
     
    • Os yw’r ddyled dros £5000 mi fyddwn yn anfon Hawliad Statudol. 

    • Os nad ydych yn talu, bydd y Cyngor yn gofyn i’r llys benderfynu eich bod yn fethdalwr (bankrupt).  Mae hyn yn arwain at lawer iawn o gostau; chi fydd yn talu’r costau yma. Mae cael eich cyhoeddi’n fethdalwr yn arwain at ymdrechion gan y Derbynnydd Swyddogol i hawlio’r arian. Mae hyn yn arwain at gostau mawr a gall arwain at golli eich holl asedau, gan gynnwys eich cartref.

  • Gorchymyn Talu

     
    • Os ydych yn berchen ar eiddo, a bod y cyfanswm balans yn £1,000 neu fwy, gall y Cyngor benderfynu pennu costau yn erbyn yr eiddo. 

    • Efallai y cewch eich gorfodi i werthu'r eiddo neu bydd yr archeb yn aros ar yr eiddo nes iddo gael ei werthu.