Cost of Living Support Icon

Bilio Treth y Cyngor

Cwestiynau cyffredin am Filiau Treth y Cyngor.

 

Treth ar eiddo â chyfran bersonol iddi yw Treth y Cyngor. Mae cyfran yr eiddo yn seiliedig ar fand gwerthuso’r eiddo. Mae’r gyfran bersonol yn cloriannu nifer yr oedolion dros 18 oed sy’n byw yn y cartref, ac yn caniatáu gostyngiad mewn rhai amgylchiadau.

 

  • Am beth mae eich treth gyngor yn ei dalu?

    Mae'r Dreth Gyngor a gesglir yn mynd tuag at wariant cyffredinol y Cyngor a'r 2 ffynhonnell wariant fwyaf yw Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol.‍ 

     

    Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar brif dudalen Treth Gyngor y wefan.

  • Sut ydw i'n gwirio a yw fy nebyd uniongyrchol wedi'i sefydlu? 
    Bydd y dull talu i’w weld ar waelod eich hysbysiad galw.
  • A allaf dalu fy mil dros 12 mis? 

    Gallwn drefnu i’ch bil gael ei ailgyfrifo dros 12 mis fel y safon, yn hytrach na’r 10 a ddangosir ar eich bil. I drefnu hyn, defnyddiwch y Dreth Gyngor neu ysgrifennwch atom yn gofyn am newid eich cyfrif.

  • A allaf dalu fy mil yn wythnosol?
    Rydym yn gallu rhoi rhandaliadau wythnosol i'r cwsmer os gofynnir am hynny. I drefnu hyn, cysylltwch â’r tîm Treth Gyngor dros y ffôn.
  • Mae'r gostyngiad person sengl ar goll yn fy mil. 
    Ewch i'n tudalen we Treth Gyngor a chyflwyno cais am Ostyngiad Person Sengl gan ddefnyddio'r e-ffurflen 'Ymholiad Treth Gyngor'.
  • Beth mae'r balans a ddangosir ar y cyfrif blaenorol yn ei olygu? 
    Er bod y biliau Treth Gyngor wedi'u dyddio ar ol 23 Chwefror 2023, fe'u cynhyrchwyd yn seiliedig ar amgylchiadau'r cyfrif ar y dyddiad hwn.  Ni fydd unrhyw wahaniaethau yn y balansau ers y dyddiad yma'n cael eu hadlewyrchu ar eich bil Treth Gyngor.

    Os gwnaed unrhyw addasiadau (fel gostyngiad, eithriadau neu fudd-daliadau) byddwch yn derbyn bil newydd neu hysbysiad addasu i adlewyrchu hyn.
  • Beth mae 'Gostyngiad Arall' yn ei olygu?

    Bydd gostyngiad arall yn ymddangos ar filiau Treth Gyngor lle mae gostyngiad a ddiystyrir ar waith. 

     

    Gostyngiad a ddiystyrir yw lle rydym yn trin person fel person sengl ac yn rhoi'r gostyngiad o 25% iddo ond rydym yn gwybod bod oedolion eraill yn yr eiddo.

     

    Y senarios mwyaf cyffredin lle mae hyn yn digwydd yw lle mae meddianwyr eraill sy’n oedolion â nam difrifol ar eu meddwl neu’n fyfyrwyr llawn amser.

  • A oes gostyngiad os nad wyf yn defnyddio holl wasanaethau'r Cyngor?

    Nid oes gostyngiad i drigolion nad ydynt yn defnyddio holl wasanaethau'r cyngor. 

     

    Nid yw treuliau pob gwasanaeth lleol yn uniongyrchol gysylltiedig â'r Dreth Gyngor a godir ac mae talwr Treth Gyngor nad yw’n defnyddio'r holl wasanaethau sydd ar gael neu sy'n anfodlon â lefel y gwasanaeth a ddarperir yn dal i fod yn atebol am y tâl llawn a godir.

     

    O ganlyniad, nid oes hawl i ostyngiad yn eich taliadau.

  • A ellir newid fy mand Treth y Cyngor?

    Nid Cyngor Bro Morgannwg sy'n gosod y bandiau eiddo, Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Adran Llywodraeth Ganolog) sy’n gwneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â nhw ar 03000 505 505 neu edrych ar eu gwefan i gael gwybodaeth.

  • Pam mae premiwm wedi cael ei ychwanegu at fy mil Treth Gyngor?

    O 1 Ebrill 2023 mae eiddo gwag hirdymor (eiddo sydd wedi bod yn wag ers dros 12 mis) yn gorfod talu premiwm o 100% ar eu Treth Gyngor. O 1 Ebrill 2024 mae'r premiwm hwn wedi cynyddu i 150% ar gyfer eiddo gwag hirdymor sydd wedi aros yn wag am dros 24 mis. O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd (y cyfeirir ato'n aml fel ail gartrefi) yn gorfod talu premiwm o 100% ar eu Treth Gyngor. Mae hyn o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i Adrannau 12A a 12B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, sy'n caniatáu i Gynghorau osod premiwm o hyd at 300% ar eiddo gwag hirdymor ac eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd.