Cost of Living Support Icon

Apeliadau Bandio Treth y Cyngor

Gwybodaeth a chanllaw am apeliadau bandiau’r Dreth Gyngor

 

Mae sail apelio yn erbyn bandio wedi ei gyfyngu i’r amgylchiadau isod:

  • Os ydych chi’n credu y dylid newid y bandio yn sgil cynnydd neu ostyngiad arwyddocaol (gweler yr eglurhad isod) yng ngwerth yr eiddo;

  • Pan fyddwch chi’n dechrau neu’n peidio â defnyddio rhan o’ch annedd i redeg busnes, neu fod y fantol rhwng defnydd domestig a busnes yn newid;

  • Pan fod y Swyddog Rhestru wedi newid rhestr heb fod cynnig wedi ei wneud gan drethdalwr;

  • Pan fyddwch yn dechrau talu treth ar yr eiddo am y tro cyntaf;

  • Fel rheol, gallai apeliadau brandio fod wedi eu cyflwyno gan unrhyw gyfranogwr hyd at 30 medi 2006 ar gyfer rhestr werthuso 2005 a hyd at 31 Rhagfyr yn achos rhestr werthuso 1993. 

 

Cynyddiadau a Gostyngiadau

Gallai cynnydd arwyddocaol mewn gwerth ddeillio o waith adeiladu, peirianegol neu waith arall a wnaethpwyd i’r annedd. Mewn achosion o’r fath, nid yw ailwerthuso’n digwydd hyd nes y gwerthir yr eiddo, felly fel arfer, y perchennog neu’r preswylydd newydd fyddai’n apelio.

 

Gallai gostyngiad arwyddocaol mewn gwerth ddeillio o ddymchwel unrhyw ran o’r adeilad, unrhyw newid yng nghyflwr materol yr ardal leol neu addasiadau a wnaethpwyd i’r adeilad i wneud yr annedd yn addas i rywun ag anabeldd corfforol. Mewn achosion o’r fath, dylid cynnal ailwerthusiad cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Ceir manylion pellach am y broses o apelio gan y Cyngor neu Asiantaeth y Swyddfa Werthuso. Llinell gymorth: 03000 505505 neu’r wefan www.voa.gov.uk.

Ydych chi’n credu nad ydych chi’n agored i gael eich trethu?

Yn ogystal, mae gennych hawl i apelio os ydych chi’n credu y dylech gael eich eithrio rhag rtalu treth y cyngor, er enghraifft, gan nad chi yw’r perchennog na’r preswylydd, neu fod eich eiddo wedi ei eithrio, neu fod Cyngro Bro Morgannwg wedi gwneud camgymeriad wrth amcangyfrif eich mantolen. Os ydych chi’n dymuno apelio ar y sail hon, ysgrifennwch at Gyngor Bro Morgannwg yn gyntaf, er mwyn i’r cyngor fedru cloriannu eich achos unwaith eto.

 

Nid yw cyflwyno apêl yn golygu y cewch ddal trethi yn ôl yn ystod y broses.

 

Os yw eich apêl yn aflwyddiannus, efallai fydd ad-daliad o dreth ormodol a dalwyd yn ddyledus i chi. 

Ailwerthuso Bandio Treth Cyngor 2005

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ailwerthusiad gan Asiantaeth y Swyddfa Werthuso o Dreth y Cyngor ar aneddau o 1 Enbrill 2005 ymlaen. Cyhoeddwyd Rhestr Werthuso Treth y Cyngor ar 1 Ebrill 2005, ac fe gewch chi chwilio’r rhestr drwy ddefnyddio cyfeiriad neu god post.

 

Dolen gyswllt Asiantaeth y Swyddfa Werthuso

Gallwch wirio band eich Treth Cyngor yma: www.voa.gov.uk. Os ydych chi’n anfodlon â’ch band newydd, eich pwynt cyswllt cyntaf yw llinell gymorth Asiantaeth y Swyddfa Werthuso ar 03000 505505.

 

Pam ailwerthuso bandiau eiddo?

Mae’n wyth band gwerthuso cyfredol yn seiliedig ar werthoedd eiddo yn 1991. Drwy ddefnyddio gwerthoedd mis Ebrill 2003 a chynnal ailwerthusiad ar holl gartrefi Cymru, bydd system treth y cyngor yn cael ei diweddaru.

 

Mae’r bandiau, a fydd yn berthnasol i bob cartref yng Nghymru o 1 Ebrill 2005 ymlaen, yn seiliedig ar dystiolaeth o brisiau gwerthiant tai ym mis Ebrill 2003.

 

Bandiau Gwerthuso yng Nghymru 1993

Bandiau
BAND GWERTH CYFRAN O FAND D
A*  o dan £30,000  6/9
B  £30,001 i £39,000  7/9
C  £39,001 i £51,000  8/9
D  £51,001 i £66,000  9/9
E  £66,001 i £90,000  11/9
F  £90,001 i £120,000  13/9
G  £120,001 i £240,000  15/9
H  £240,001 ac yn uwch  18/9

 

Bandiau Gwerthuso yng Nghymru 2005

Bandiau Gwerthuso yng Nghymru 2005
BAND GWERTHCYFRAN O FAND D
 A*  o dan £44,000  6/9
 B  £44,001 i £65,000  7/9
 C  £65,001 i £91,000  8/9
 D  £91,001 i £123,000  9/9
 E  £123,001 i £162,000  11/9
 F  £162,001 i £223,000  13/9
 G  £223,001 i £324,000  15/9
 H  £324,001 i £424,000  18/9
 I  £424,001 ac yn uwch  21/9