Gwelliannau Trafnidiaeth M4 Cyffordd 34 i'r A48
Gwella Trafnidiaeth Strategol gan gynnwys Y Coridorau o Gyffordd 34 yr M4 i'r A48 gan gynnwys Coridor Pendeulwyn
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Mae'r mae'r astudiaeth, sy'n cynnwys achos busnes amlinellol ac asesiad effaith, yn ystyried yr opsiynau priff ordd posibl i wella cysylltedd strategol ar y coridor o Gyffordd 34 yr M4 i’r A48 yn Sycamore Cross, sy’n cynnwys Pendeulwyn.
Mae’r ymgynghoriad yn gam pwysig yn Achos Busnes Amlinellol astudiaeth Cam Dau Plws yr Arweiniad ar Gynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) y mae Arcadis Consulting (UK) Limited yn ei chynnal ar ran Cyngor Bro Morgannwg.
Nid oes unrhyw statws i’r opsiynau a gyflwynir. Maent wedi’u datblygu i fod yn sail i ymgynghoriad. Mae hyn yn dilyn cwblhau astudiaeth Cam Dau WelTAG (Hydref 2018) ac argymhellion a wnaed gan y Grŵp Adolygu o randdeiliaid allweddol a Phwyllgor Craff u yr Amgylchedd ac Adfywio Cyngor Bro Morgannwg a chymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad gan Gabinet y Cyngor.
O ganlyniad i’r achos Covid-19 yn gynnar yn 2020, mae goblygiadau Covid-19 tymor canolig i hirach yn y dyfodol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol yn parhau yn anhysbys i raddau helaeth, ac felly nid yw astudiaeth Cam Dau Plws wedi llunio unrhyw dybiaethau o ran yr effeithiau ar y sefyllfaoedd hyn. Mae’r arfarniad yn parhau i fod wedi’i seilio ar yr amodau cyn Covid-19, er y bydd angen i asesiadau yn y dyfodol ystyried unrhyw oblygiadau eraill wrth i wybodaeth, tueddiadau ac effeithiau ddod yn fwy i’r amlwg a chael eu derbyn yn ehangach.
Rydym yn ceisio adborth ar yr opsiynau posibl i gefnogi'r broses hon. Er bod y prosiect yn dal i fod yn y camau dylunio cysyniad cynnar iawn, rydym am sicrhau eich bod yn cael cyfle i rannu eich barn.
Rydym yn dymuno bod mor agored a chlir ag y gallwn ynglŷn â'r hyn fydd yn digwydd nesaf a helpu perchnogion tir a meddianwyr i ddeall goblygiadau posibl y prosiect. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau a'ch opsiynau ar y cam cynnar hwn.
Mae'n bwysig nodi nad yw'r llwybr a ffefrir wedi'i ddewis eto felly nid yw unrhyw effaith ar y tir wedi’i chadarnhau. Fodd bynnag, wrth i'r prosiect fynd rhagddo trwy gyfnod Cam Dau Plws WelTAG, rydym yn awyddus i sicrhau eich bod yn cael y cyfle llawn i dderbyn gwybodaeth a darllen a rhoi sylwadau ar yr opsiynau posibl.
Dylid nodi hefyd y byddai unrhyw lwybr a ffefrir yn parhau i fod yn destun mân addasiadau ac amrywiadau wrth i'r dyluniadau gael eu datblygu. Os oes angen, byddem yn trafod y newidiadau i'r llwybr gyda pherchnogion tir, meddianwyr a phartïon eraill yr effeithir arnyntcyn cynnal ymgynghoriad statudol Cam Tri ar gyfer y prosiect a chyn cyflwyno unrhyw gais cynllunio.
Deunydd Ymgynghori
Adolygwch yr isod cyn darparu eich adborth.
Ewch i mewn i’r Ystafell Ymgynghori Ryngweithiol
-
Beth ydy’r astudiaeth?
Mae'r Cyngor yn gweithio gydag Arcadis Consulting (UK) Limited, ymgynghorydd technegol annibynnol, i ddatblygu cynigion ar gyfer ffordd newydd sy'n cysylltu'r M4, Cyffordd 34 â'r A48 yn Sycamore Cross. Mae cynigion ar gyfer Gorsaf Reilffordd Porth (Parkway gynt) gyda chyfleusterau parcio a theithio wrth Gyffordd 34 yr M4 bellach yn rhan o astudiaeth WelTAG ar wahân.
-
Beth ydy astudiaeth WelTAG?
WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) yw fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu, arfarnu a gwerthu projectau trafnidiaeth arfaethedig yng Nghymru. Mae angen datblygu unrhyw gynlluniau sydd gofyn am arian cyhoeddus gan ddefnyddio'r broses. Mae WelTAG yn cynnwys pum cam sef:
• Cam Un | Achos Amlinellol Strategol
• Cam Dau | Achos Busnes Amlinellol
• Cam Tri | Achos Busnes Llawn
• Cam Pedwar | Gweithredu
• Cam Pump | Ôl-Weithredu
Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar astudiaeth Cam Dau sydd wedi’i diweddaru, o'r enw Cam Dau a Mwy, yn dilyn ymchwiliadau pellach a newidiadau dylunio i'r opsiynau.
-
Beth yw'r opsiynau posibl?
Mae'r astudiaeth yn ystyried y pedwar dewis canlynol o ran priffyrdd, o'i gymharu â'r dewis i Wneud Cyn Lleied â Phosibl (peidio â gwella cyswllt priffyrdd):
• Cyffordd 34 yr M4 i'r A48 | Dewis A – Llwybr Priffyrdd i'r Dwyrain o Bendeulwyn
• Cyffordd 34 yr M4 i'r A48 | Dewis B – Llwybr Priffordd i'r Gorllewin o Bendeulwyn
• Cyffordd 34 yr M4 i'r A48 | Dewis C1 – Gwella Seilwaith Presennol (ar y ffordd bresennol)
• Cyffordd 34 yr M4 i'r A48 | Dewis C2 – Gwella Seilwaith Presennol (ar y ffordd bresennol)
Mae dewisiadau C1 a C2, sy'n ystyried dau ddewis dylunio ar gyfer gwella'r ffordd bresennol, wedi cael eu hasesu yn dilyn ceisiadau gan y gymuned leol.
-
A oes angen y ffordd hon?
Mae astudiaeth Cam Dau a Mwy WelTAG yn cynnwys achos dros newid yn yr asesiad Achos Strategol, y mae crynodeb ohono wedi'i gynnwys fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus. Er bod gwella mynediad i faes awyr Caerdydd yn parhau o fudd allweddol o ran cyswllt priffordd strategol gwell rhwng Cyffordd 34 yr M4 a'r A48 yn Sycamore Cross, nodwyd bod manteision arwyddocaol eraill hefyd sy'n cwmpasu gwell mynediad i’r Maes Awyr presennol ac Ardaloedd Menter Sain Tathan, gan gryfhau mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a busnes lleol ar gyfer yr ardaloedd i'r gorllewin o Gaerdydd a'r gogledd yng nghoridor yr A4119, gwella cydnerthedd y rhwydwaith rhwng y Fro a Phrifddinas-Ranbarth ehangach Caerdydd, a'r potensial ar gyfer gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio yn yr ardal.
-
Beth fydd yn digwydd os na wnewch chi unrhyw beth? (y cyfeirir ato fel y senario Gwneud Cyn Lleied â Phosibl yn adroddiadau technegol Cam Dau a Mwy WelTAG).
Os na wneir unrhyw beth o gwbl, mae'r arian a'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael yn annhebygol o wneud gwahaniaeth sylweddol o ran goresgyn y problemau a nodwyd fel rhan o astudiaeth WelTAG, gan gynnwys seilwaith priffyrdd a chydnerthedd gwael rhwng Cyffordd 34 yr M4 a'r A48 a fyddai’n arwain at fynediad gwael i gymunedau a busnesau lleol, mynediad cynaliadwy gwael i Faes Awyr Caerdydd a chyrchfannau strategol, seilwaith a chysylltedd lleol gwael o ran cerdded a beicio, a phroblemau’n deillio o’r tagfeydd presennol sy'n debygol o waethygu gyda'r datblygiadau sydd wedi’u sicrhau yn yr ardal.
Dan senario Gwneud Cyn Lleied â Phosibl, mae'r asesiad yn dangos dirywiad pellach ym mherfformiad y rhwydwaith ffyrdd gyda llif traffig uwch erbyn 2036 ar lwybrau allweddol yr M4 rhwng Cyffordd 33 a Chyffordd 35, a rhwng Cyffordd 33 a Chroes Cwrlwys. Rhagwelir hefyd y bydd yr A48 i'r gorllewin o Sycamore Cross a choridor Pendeulwyn yn gweld cynnydd mewn llif traffig. Felly, byddai'r problemau presennol yn gwaethygu'n sylweddol. Mae problemau trafnidiaeth yn debygol o effeithio ar ddyheadau datblygu ar gyfer yr ardal ac atyniad Bro Morgannwg fel lle i weithio, byw a buddsoddi ynddo.
-
O ganlyniad i Covid-19 mae mwy o bobl yn gweithio gartref a llai o bobl yn teithio mewn awyren. A oes angen parhau â'r astudiaeth hon o hyd?
O ganlyniad i'r achosion covid-19 yn gynnar yn 2020, mae'r goblygiadau tymor canolig i dymor hwy yn y dyfodol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol yn parhau’n anhysbys iawn ac nid yw astudiaeth Cam Dau a Mwy wedi gwneud unrhyw ragdybiaethau ynghylch yr effeithiau ar y senarios hyn. Felly, mae'r gwerthusiad yn parhau’n seiliedig ar yr amodau fel yr oeddent cyn Covid-19, er y bydd angen i asesiad yn y dyfodol ystyried unrhyw oblygiadau pellach wrth i wybodaeth, tueddiadau ac effeithiau ddod yn fwy hysbys a chael eu derbyn. Mae’r tueddiadau presennol yn awgrymu y gellir dychwelyd tuag at lefelau traffig fel yr oeddent cyn Covid-19 yn gyffredinol, yn enwedig ar gyfer mynediad at gyflogaeth yn y mathau o fusnesau a fyddai'n gweld gwell mynediad pan na all pobl weithio gartref.
-
Os bydd ffordd yn cael ei hadeiladu, pryd y byddai hyn yn digwydd?
Nid oes gan y dewisiadau a gyflwynir statws ac maent wedi'u datblygu fel sail ar gyfer ymgynghori yn unig – felly mae'r dewisiadau’n parhau ar y cam dylunio cysyniadau. Mae datblygu rhaglen weithredu arfaethedig yn parhau’n amodol ar fwrw ymlaen â dewis a ffefrir i Gam Tri (Achos Busnes Llawn) WelTAG, dyluniad manwl a chais cynllunio. Byddai adeiladu'r llwybr hefyd yn dibynnu ar arian.
-
Sut y bydd hyn yn effeithio ar werth fy eiddo?
Nid oes gan y dewisiadau a gyflwynir statws ac maent wedi'u datblygu fel sail ar gyfer ymgynghori yn unig – felly mae'r dewisiadau’n parhau ar y cam dylunio cysyniadau. Byddai'r effeithiau llawn ar eiddo ac ar dirfeddianwyr yn cael eu hystyried yn ystod cam nesaf yr arfarniad, yn amodol ar fynd â dewis a ffefrir ymlaen i Gam Tri (Achos Busnes Llawn) WelTAG, dylunio a chynllunio manwl.
-
Os bydd y cynllun yn effeithio ar fy nghartref, a fydd hwnnw wedyn yn destun Gorchymyn Prynu Gorfodol?
Nid oes gan y dewisiadau a gyflwynir statws ac maent wedi'u datblygu fel sail ar gyfer ymgynghori yn unig – felly mae'r dewisiadau’n parhau ar y cam dylunio cysyniadau. Byddai'r effeithiau llawn ar eiddo ac ar dirfeddianwyr yn cael eu hystyried yn ystod cam nesaf yr arfarniad, yn amodol ar fynd â dewis a ffefrir ymlaen i Gam Tri (Achos Busnes Llawn) WelTAG, dylunio a chynllunio manwl.
-
Os caiff y ffordd ei hadeiladu, a fydd gennyf hawl i gael iawndal?
Nid oes gan y dewisiadau a gyflwynir statws ac maent wedi'u datblygu fel sail ar gyfer ymgynghori yn unig – felly mae'r dewisiadau’n parhau ar y cam dylunio cysyniadau. Byddai'r effeithiau llawn ar eiddo ac ar dirfeddianwyr yn cael eu hystyried yn ystod cam nesaf yr arfarniad, yn amodol ar fynd â dewis a ffefrir ymlaen i Gam Tri (Achos Busnes Llawn) WelTAG, dylunio a chynllunio manwl.
-
A fydd yr astudiaeth hon yn ymddangos ar chwiliadau os byddaf yn ceisio gwerthu fy nhŷ nawr?
Nid oes gan y dewisiadau a gyflwynir statws ac maent wedi'u datblygu fel sail ar gyfer ymgynghori yn unig – felly mae'r dewisiadau’n parhau ar y cam dylunio cysyniadau.
-
Beth yw'r effeithiau amgylcheddol os caiff y ffordd ei hadeiladu?
Mae astudiaeth Cam Dau a Mwy WelTAG wedi cwblhau arfarniad amgylcheddol estynedig ar bob un o'r pedair priffordd dan sylw, gan asesu nifer o effeithiau. O ran bioamrywiaeth er enghraifft, mae dewisiadau C1 ac C2 ‘gwelliannau ar y ffordd bresennol’ yn perfformio'n well na dewisiadau A (llwybr dwyreiniol) a B (llwybr gorllewinol) ‘gwelliannau nad ydynt ar y ffordd bresennol’. Mae manylion llawn yr arfarniad amgylcheddol wedi'u cynnwys yn yr
adroddiadau technegol.
-
Os caiff y ffordd ei hadeiladu faint o gerbydau fydd yn ei defnyddio ac a fydd yn rhyddhau capasiti ar ardaloedd eraill o'r rhwydwaith ffyrdd lleol a strategol?
Rydym wedi defnyddio Model Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i gyfrifo manteision cynllun llwybr newydd (naill ai llwybr dwyreiniol neu orllewinol). Mae'r traffig a ragwelir ar gyfer y cyfnod prysuraf yn y prynhawn (uchaf ei anterth) yn 2036 yn cynnig manteision sylweddol ar draws y rhwydwaith ffyrdd, ac amlinellir y manylion yn yr Adroddiad Asesu Effeithiau cysylltiedig. Byddem yn disgwyl i’r manteision gynyddu wrth fireinio'r gwaith modelu yn ystod astudiaeth Cam Tri sef diddymu’r nodwedd groesgam yng nghyffordd Sycamore Cross yr A48 a gwella C34 yr M4 ac ystyried effeithiau economaidd ehangach. Gwnaed y gwaith hwn ar gyfer Astudiaeth Cam Dau a bwriedir ei ddiweddaru ar gyfer Achos Busnes Llawn os eir ymlaen ag un o’r dewisiadau.
-
Os caiff y ffordd hon ei hadeiladu a yw hynny’n cael ei wneud dim ond i wasanaethu'r maes awyr?
Mae astudiaeth Cam Dau a Mwy WelTAG yn cynnwys achos dros newid yn yr asesiad Achos Strategol, y mae crynodeb ohono wedi'i gynnwys fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus. Er bod gwella mynediad i faes awyr Caerdydd yn parhau o fudd allweddol o ran cyswllt priffordd strategol gwell rhwng Cyffordd 34 yr M4 a'r A48 yn Sycamore Cross, nodwyd bod manteision arwyddocaol eraill hefyd sy'n cwmpasu gwell mynediad i’r Maes Awyr presennol ac Ardaloedd Menter Sain Tathan, gan gryfhau mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a busnes lleol ar gyfer yr ardaloedd i'r gorllewin o Gaerdydd a choridor yr A4119, gwella cydnerthedd y rhwydwaith rhwng y Fro a Phrifddinas-Ranbarth ehangach Caerdydd, a'r potensial ar gyfer gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio yn yr ardal.
-
Sut alla i wrthwynebu adeiladu'r ffordd hon?
Mae eich adborth yn bwysig i ni, a byddem yn eich annog i adael sylwadau i lywio casgliadau astudiaeth Cam Dau a Mwy WelTAG. Gellir gwneud hyn drwy lenwi
ffurflen adborth, cysylltu â ni dros y ffôn ar 01446 700111, neu anfon e-bost i
junction34transportstudyconsultation@valeofglamorgan.gov.uk
-
Beth fydd cost ffordd newydd?
Crynhoir cyfanswm costau cynllun Cam Dau a Mwy WelTAG fel a ganlyn, gyda'r dogfennau technegol ategol yn cynnwys manylion llawn yr ymarfer gwerth am arian ac Achos Ariannol dros y dewisiadau priffyrdd.
Dewis A | Llwybr Priffordd i'r Dwyrain o Bendeulwyn - £76.844M
Dewis B | Llwybr Priffordd i'r Gorllewin o Bendeulwyn - £66.332M
Dewis C1 | Gwella’r Seilwaith Presennol (ar y ffordd bresennol) - £59.844M
Dewis C2 | Gwella’r Seilwaith Presennol (ar y ffordd bresennol) - £40.513M
-
Sut mae ymgynghoriad Cam Dau a Mwy WelTAG yn cael ei hyrwyddo?
Anfonwyd llythyrau at y ddau dirfeddianwr y gallai'r llwybrau arfaethedig effeithio arnynt ac i gyfeiriadau o fewn 250 metr i ardal yr astudiaeth. Yn ogystal, mae arwyddion wedi'u codi mewn pentrefi cyfagos ac mae pob cyngor cymuned wedi cael gwybod am yr ymgynghoriad, gyda'r rhai yn ardal yr astudiaeth yn cael gwybodaeth y gallant ei rhoi ar eu byrddau gwybodaeth.
Bydd datganiad i'r wasg yn cael ei roi i'r wasg i gyd-fynd â dechrau’r cyfnod ymgynghori. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cael ei hyrwyddo drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, Facebook, Twitter a LinkedIn y Cyngor. Nodwyd rhestr o randdeiliaid, sy'n cynnwys trigolion lleol, busnesau, grwpiau cymunedol a chynghorau cymuned, y cysylltir â phob un ohonynt ar ddechrau'r cyfnod ymgynghori i roi gwybod iddynt am yr ymgynghoriad.
-
Astudiaeth Cam Dau WelTAG Orsaf Borth ar gyfer Morgannwg.
Ar 30 Tachwedd 2020 bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried
adroddiad a gyfeiriwyd gan Pwyllgor Craffu Adwfywio ac yr Amgylchedd ar Astudiaeth Cam Dau WelTAG ar Orsaf Borth ar gyfer Morgannwg.
Camau Nesaf
Ar ôl derbyn yr holl adborth, byddwn yn adrodd yn ôl i’r Grŵp Adolygu a neilltuwyd, a fydd yn ystyried yr adroddiad ac yn argymell beth ddylai ddigwydd nesaf i Gabinet Cyngor Bro Morgannwg. Os aiff un neu fwy o'r opsiynau ymlaen, a bod cyllid ar gael, y cam nesaf fydd paratoi Achos Busnes Llawn (Cam Tri WelTAG). Pwrpas Cam Tri yw gwneud asesiad llawn a manwl o'r opsiwn a ffefrir i lywio penderfyniad ynghylch a ddylid symud ymlaen i'w weithredu ai peidio.