Beth yw cyfranogiad cyhoeddus?
Gall cyfranogiad cyhoeddus fod yn unrhyw broses sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cyhoedd o ran sut y gwneir penderfyniadau ac sy'n ystyried sut mae'r cyhoedd yn cyfrannu at y broses o wneud y penderfyniadau hynny. Proses yw cyfranogiad cyhoeddus, nid un digwyddiad.
Mae'n cynnwys cyfres o weithgareddau a chamau dros oes prosiect i hysbysu'r cyhoedd a chael mewnbwn ganddynt. Mae cyfranogiad cyhoeddus yn rhoi cyfle i randdeiliaid (y rhai sydd â diddordeb neu fuddiant mewn mater, megis unigolion, grwpiau buddiant, cymunedau) ddylanwadu ar sut y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a'u cymuned.
Mae cyfranogiad cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwell canlyniadau i'r Cyngor a rhanddeiliaid.
Pan gaiff ei wneud mewn ffordd ystyrlon, mae cyfranogiad cyhoeddus yn arwain at well dealltwriaeth o ffeithiau, gwerthoedd a safbwyntiau ychwanegol a gafwyd drwy fewnbwn cyhoeddus – i ddwyn i'r broses benderfynu ac i lywio sut mae'r sefydliad yn gweithio.
Beth yw'r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus?
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn dymuno annog yr holl randdeiliaid i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau drwy helpu i benderfynu beth yw pwrpas y penderfyniadau, deall y materion a datblygu atebion mewn ffordd gyd-ddyluniol a chydgynhyrchiol.
Mae rhanddeiliaid y Cyngor yn cynnwys dinasyddion, busnesau, ymwelwyr ac eraill. Mae'r Cyngor am gymryd camau i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, yn enwedig y rhai o grwpiau nas clywir yn aml a phobl ifanc hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan.
Mae'r Cyngor yn cydnabod nad oes dull sy'n addas i bawb o ymgysylltu ag ystod mor eang o randdeiliaid. Fel rhan o'n hymrwymiad, byddwn yn amrywiol yn y ffordd yr ydym yn ymgysylltu ac yn cysylltu â gwahanol grwpiau.
Mae'r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd hon yn amlinellu sefyllfa bresennol y Cyngor, yn ogystal â'i nodau byrdymor a hirdymor a sut y bydd y rhain yn cyfrannu at gyflawni’r hamcanion lles.
Darllenwch y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus Ddrafft