Ein safle
Ar hyn o bryd mae Cyngor Bro Morgannwg yn wynebu llawer o heriau ariannol ar ôl degawd o gyni ac effaith sylweddol Covid-19.
Mae llawer o gamau eisoes wedi'u cymryd i leihau costau, megis gwerthu gwasanaethau, darparu gwasanaethau mewn partneriaeth a chydweithio â chynghorau eraill.
Fodd bynnag, mae’r gost ar gyfer darparu gwasanaethau yn dal i godi ac yn achosi mwy o bwysau nag yn y blynyddoedd blaenorol. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, amcangyfrifir y bydd y pwysau cost ychydig yn llai na £27 miliwn. Mae hyn yn cael effaith fawr ar gynllunio'r gyllideb.
Daw cyllideb y Cyngor o dair ffynhonnell:
- Y Dreth Gyngor a delir gan breswylwyr (33% o gyfanswm y gyllideb).
- Ardrethi Busnes a delir gan fusnesau (18%).
- Grantiau ariannol gan Lywodraeth Cymru (49%).
Er nad ydym yn gwybod eto beth fydd setliad Llywodraeth Cymru, bydd hyd yn oed y senario orau yn dal i adael diffyg mawr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i daliadau'r dreth gyngor gan breswylwyr gynyddu fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ychwanegol i ni i helpu gyda chostau pandemig y coronafeirws, ond nid oes disgwyl i hynny barhau. Disgwylir i nifer o ffactorau eraill hefyd effeithio'n negyddol ar sefyllfa ariannol y Cyngor, gan gynnwys prisiau ynni cynyddol a newidiadau i daliadau Yswiriant Gwladol.
Mae gan y Fro hefyd boblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o blant ag anghenion ychwanegol. Mae'r grwpiau hyn fel arfer yn dibynnu'n fwy ar ein gwasanaethau.