Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae angen i'r Cyngor ystyried sut a ble y cyflenwir gwasanaethau celf i wella hyblygrwydd ac addasrwydd yn y dyfodol yn unol â’r Strategaeth Gelf ac i leihau costau rhedeg i’r Cyngor.
Mae tair elfen i’w hystyried yn rhan o’r ymgynghoriad hwn, a dyma nhw.
Elfen 1 - Cyflawni amcanion y Strategaeth Gelf
Mae'r elfen ymgynghori hon yn ceisio nodi cyfleoedd ar gyfer gwasanaeth celf mwy cynaliadwy a chynhwysol yn unol ag amcanion y Strategaeth Gelf. Mae gan y strategaeth y nod o gynyddu gweithgarwch celfyddydol ym Mro Morgannwg a datblygu cyfleoedd newydd i greu rhaglen gelfyddydol i’r unfed ganrif ar hugain sy’n atgyfnerthu ymdeimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a pherthyn, ac i sicrhau bod cyfleoedd ymgysylltu â’r celfyddydau a’r diwylliant ar gael ac yn hygyrch i holl drigolion ac ymwelwyr â Bro Morgannwg.
Elfen 2 - Sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy ac yn niwtral o ran cost i'r Cyngor
Mae’r elfen ymgynghori hon yn ystyried cyfleoedd i leihau costau a/neu gynyddu’r incwm fel y bydd y gwasanaeth yn gweithredu ar sail niwtral o ran cost.
Elfen 3 - Nodi sut y gellid defnyddio Oriel Gelf Ganolog yn y dyfodol
Bydd yr elfen hon o'r ymgynghoriad yn ystyried sut y byddai'r Oriel Gelf Ganolog yn cael ei defnyddio yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried y posibilrwydd i’r gofod fynd dros ben i ofynion y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ac yn edrych ar ddefnyddiau amgen posibl.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhesymau dros yr ymgynghoriad hwn, ewch i Adroddiad Cabinet.
Gwahoddir trigolion a rhanddeiliaid allweddol i ddweud eu dweud ar yr ymgynghoriad hwn naill ai drwy:
Yn ogystal, cynhelir cyfarfodydd gydag aelodau staff a’r Grŵp Cyfeillion Oriel Gelf Ganolog drwy gydol yr ymgynghoriad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gyflwyno eich barn yn ysgrifenedig, cysylltwch â ni drwy'r cyfeiriad e-bost isod. Caiff eich e-bost ei gyfeirio at y swyddogion perthnasol i’w ystyried.