Cost of Living Support Icon

Safonau Gwasanaeth

Ein nod yw cyflawni’r safonau uchaf posib wrth gyflenwi ein gwasanaethau a’r rhai sy'n cael eu darparu gan gyrff eraill.

 

Gwasanaethau dibynadwy

Rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni wedi addo ei wneud. Rydyn ni dim ond yn gwneud addewidion y gallwn eu cadw.

 

Byddwn yn dangos parch tuag at bobl

Byddwn yn trin cwsmeriaid fel unigolion a gyda pharch.

 

Cyngor sy’n cynorthwyo

Rydyn ni'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar y cyhoedd ac esbonio pethau’n glir.

 

Rhoi dewis i’r unigolyn

Rydyn ni'n dweud wrth bobl pa hawliau sydd ganddyn nhw a pha ddewisiadau eraill sydd ar gael.

 

Cyfrinachedd

Mae’n staff yn ddibynadwy ac yn feddylgar; maen nhw'n trin materion sensitif yn breifat.

 

Cyfathrebu’n syml a chlir

Rydyn ni'n ymdrechu i esbonio pethau’n glir ac mewn iaith syml, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Pan fydd pobl yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn yn eu hateb yn Gymraeg.

 

Sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn cael dweud eu barn

Rydym wedi ymrwymo i wrando ar safbwyntiau a barnau ac ymateb iddynt. Byddwn yn ymgynghori â’r cyhoedd fwy a mwy, gan ddefnyddio’r Panel Dinasyddion fel y dull pennaf o gysylltu â hwy.

 

Ymateb i gwynion

Rydyn ni'n dweud wrth bobl sut i gwyno, ac ymateb i gwynion yn bositif ac yn gyflym.

 

Parch tuag at amrywiaeth

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddangos sensitifrwydd tuag at gefndir diwylliannol, hil, crefydd, oed, tueddfryd rhywiol, rhyw, galluoedd, ffordd o fyw, cred a gwerthoedd pobl.

 

Gwasanaethau ymatebol

Rydyn ni'n anelu i gwtogi’r amser sydd raid i chi aros cyn y byddwch yn cael ateb gennym ac ymateb fel isod:

  • llythyrau o fewn deg diwrnod
  • galwadau ffôn ymhen chwe chaniad
  • cwynion anffurfiol (y tro cyntaf i chi ddweud wrthym amdanynt) cyn pen  deg diwrnod gwaith
  • cwynion ffurfiol (os nad ydych yn fodlon a’n hymateb cyntaf) ymhen 20 diwrnod gwaith
  • adolygu cwynion yn fewnol (y broses apelio) cyn pen 25 niwrnod gwaith
  • e-byst ymhen pum niwrnod gwaith

Staff sy’n gwrtais ac yn wybodus

Bydd ein staff yn gwrtais ac yn rhoi gwybodaeth glir a chywir am wasanaethau, yr hawl i gael gwasanaeth, y safonau y gellir eu disgwyl a’r rhesymau tu ôl i benderfyniadau, amserau aros, a.y.b.

 

Cysondeb o ran gwasanaethau

Lle bo’n briodol, bydd cwsmeriaid yn gallu siarad â rhywun sy’n gwybod am eu hachos. Bydd y staff yn dweud pwy ydyn nhw gan roi eu henwau cyntaf neu olaf ac fe fyddan nhw’n dweud ym mha adran y maent yn gweithio.

 

Amgylchedd croesawgar

Bydd ein derbynfeydd yn lân, yn hygyrch ac yn gysurus, ac yn cynnig gwybodaeth berthnasol.