Cost of Living Support Icon

Gweithiwr cadw tŷ mewn gwesty

مدبرة فندق

 

 

Ynglŷn â bod yn weithiwr cadw tŷ mewn gwesty

حول العمل كمدبرة في فندق 

 

Lauren Stephens, HR Manager, voco St David's Hotel

Many thanks to Lauren Stephens, HR Manager at voco St David's hotel, for all her help with the Language Passport - your ticket to work.

 

جزيل الشكر للورين ستيفز, مديرة شئون الموظفين بفندق فوكو كارديف, على مساهمتها في انجاح هذا العمل

 

  • Beth mae gweithiwr cadw tŷ mewn gwesty yn ei wneud?

    ماذا تفعل مدبرة الفندق؟

     

    Mae gweithiwr cadw tŷ mewn gwesty yn helpu i sicrhau bod ystafelloedd ac ardaloedd eraill y gwesty yn lân drwy'r amser. Fel arfer bydd disgrifiad swydd gweithiwr cadw tŷ mewn gwesty yn cynnwys:

    تساعد مدبرة المنزل في الفندق على التأكد من نظافة الغرف والمناطق الأخرى بالفندق طوال الوقت. عادةً ما يتضمن الوصف الوظيفي في الفندق ما يلي

     

    • gwisgo gwelyau

      ترتيب الأسرة
    • rhoi tywelion glân yn lle rhai sydd wedi’u defnyddio

      استبدال المناشف المستعملة بأخرى جديدة

    • hwfro carpedi

      كنس السجاد

    • glanhau a diheintio ystafelloedd ymolchi

      تنظيف وتطهير الحمامات

    • gosod nwyddau ymolchi a ddarperir gan y gwesty

      استبدال أدوات النظافة التي يوفرها الفندق 

     

    Dylai gweithiwr cadw tŷ chwilio am eitemau y gallai gwestai fod wedi eu gadael ar ôl. Mae'r rhain yn cael eu rhoi yn y dderbynfa fel bod modd cysylltu â'r gwestai a threfnu dychwelyd yr eitemau coll.

    يجب على مدبرة الفندق أيضًا البحث عن العناصر التي تركها الضيف وراءه.  يتم أخذها إلى مكتب الاستقبال حتى يتم الاتصال بالضيف واستعادة العناصر المفقودة

     

    Mae gweithwyr cadw tŷ fel arfer yn rhan o dîm, dan oruchwyliaeth y rheolwr cadw tŷ. Bydd y rheolwr yn paratoi amserlen lanhau er mwyn sicrhau bod modd glanhau pob ystafell o fewn yr amser sydd ar gael rhwng amser gadael un set o westeion ac amser cyrraedd set newydd o westeion i’r ystafell. Mae gan bob gwesty safonau glendid uchel iawn.

    عادة ما تكون مدبرة الفندق جزءًا من فريق يشرف عليه المدير المسؤول. سيعد المدير جدولًا للتنظيف للتأكد من إمكانية تنظيف جميع الغرف خلال الوقت المتاح والذي يكون بين مغادرة مجموعة من الضيوف ووصول مجموعة جديدة. تتمتع جميع الفنادق بمستويات عالية جدًا من النظافة

     

    Gall disgrifiad swydd gweithiwr cadw tŷ hefyd gynnwys cadw rhannau eraill o'r gwesty yn lân. Gallai hyn gynnwys ystafelloedd cynadledda, cynteddau a choridorau. Gall hefyd gynnwys glanhau'r dodrefn a'r ffenestri. Gall gweithwyr cadw tŷ hefyd weithio mewn adran golchi dillad gwesty lle maen nhw’n golchi ac yn sychu llieiniau fel tywelion a chynfasau gwely, ac ail-lenwi cartiau llieiniau. 

    قد يتضمن الوصف الوظيفي لمدبرة الفندق أيضًا الحفاظ على نظافة أجزاء أخرى من الفندق.  يمكن أن يشمل ذلك قاعات المؤتمرات والردهات والممرات.  قد يشمل أيضًا تنظيف الأثاث والنوافذ.  قد تعمل مدبرة الفندق أيضًا في قسم غسيل الملابس بالفندق حيث يقومون بغسل وتجفيف المناشف والشراشف وإعادة تخزين العربات بها

     

    Gall oriau gwaith gweithwyr cadw tŷ fod yn amrywiol a chynnwys shifftiau penwythnos. Gall gwaith cadw tŷ fod yn gorfforol heriol ac yn gyflym.

    يمكن أن تتنوع ساعات عمل مدبرة الفندق وتشمل فترة عطلة نهاية الأسبوع

     

    Mae'n bwysig meddwl sut i gadw'ch amgylchedd gwaith yn ddiogel - i chi a'ch gwesteion gwesty. Dylech chi chwilio am unrhyw beryglon cyn i chi adael pob ystafell yr ydych wedi'i glanhau.

    من المهم التفكير في كيفية الحفاظ على بيئة عملك آمنة - لك ولضيوفك في الفندق. يجب عليك التحقق من وجود أي مخاطر قبل مغادرة كل غرفة قمت بتنظيفها.

  • Beth yw’r cyfleoedd gyrfa?

    ماهي فرص العمل؟

    Mae cwmnïau mawr yn hoffi dyrchafu o fewn eu gweithlu presennol gan fod hyn yn helpu gyda recriwtio a chadw staff. Mae gwestai'n rhoi pwyslais mawr ar adborth gan eu gwesteion, ac mae hyn yn eu helpu i asesu perfformiad staff. Dyma pam ei bod hi mor hanfodol i bob ystafell rydych chi'n ei glanhau i fod o'r un safon uchel.

    تحب الشركات الكبيرة القوى العاملة لديها  لأن هذا يساعد في التوظيف والاحتفاظ بهم. تركز الفنادق بشكل كبير على التعليقات الواردة من ضيوفها ، وهذا يساعدهم في تقييم أداء الموظفين.  هذا هو السبب في أنه من الأهمية بمكان أن تكون كل غرفة تقوم بتنظيفها من نفس المستوى العالي

     

     

    Yn aml mae gan westai mawr weithlu cosmopolitaidd sy'n adlewyrchu amrywiaeth y gwesteion y maen nhw'n eu croesawu i'w hystafelloedd. Bydd hyn yn eich helpu i ymgartrefu a bydd yn sicr yn eich helpu i ddysgu mwy o Saesneg. Bydd ganddyn nhw empathi gyda chi gan eu bod nhw wedi gorfod dysgu Saesneg hefyd.

    غالبًا ما تحتوي الفنادق الكبيرة على قوة عاملة عالمية تعكس تنوع الضيوف الذين يرحبون بهم في غرفهم.  سيساعدك هذا على الاستقرار وسيساعدك بالتأكيد على تعلم المزيد من اللغة الإنجليزية.  سيتعاطفون معك لأنه كان عليهم أيضًا تعلم اللغة الإنجليزية يوما ما

     

  • Beth yw fy hawliau a chyfrifoldebau?

     ما هي حقوقي ومسؤولياتي؟

    Yn y DU, y llywodraeth sy’n gosod yr isafswm cyflog cenedlaethol. Rhaid i bob busnes dalu hyn.

    الحد الأدنى الوطني للأجور من قبل الحكومة.  يجب على جميع الشركات دفع هذا الحد 

     

     

    Mae gan bob swydd safonau y mae'n rhaid eu cyrraedd er mwyn gwneud y gwaith yn dda. Pan fyddwch chi'n dechrau swydd, bydd eich cyflogwr yn esbonio'r rhain yn glir i chi ac yn disgrifio sut y bydd yn eich cefnogi i gwrdd â'r safonau hyn.

    جميع الوظائف لها معايير يجب الوفاء بها للقيام بالمهمة بشكل جيد.  عندما تبدأ في العمل ، سيشرح لك صاحب العمل ذلك بوضوح وسيصف لك كيف سيدعمك للوفاء بهذه المعايير

     

     

    Mae unrhyw swydd yn cael ei rheoli gan gontract sy'n nodi eich cyfrifoldebau - fel faint o oriau y mae disgwyl i chi eu gweithio bob wythnos - a rhai eich cyflogwr. Dyma eich amddiffyniad hefyd. Er enghraifft, gall gwesty fod ar agor 24 awr y dydd; nid yw’n dymuno cau unrhyw bryd o fewn yr oriau hyn. Er mwyn cyflenwi absenoldeb staff eraill sydd ar wyliau neu'n sâl, efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio oriau ychwanegol, ond nid oes rheidrwydd arnoch i gytuno. Yn amlwg, rydych chi eisiau perthynas dda â'ch cyflogwr, ond weithiau efallai bod gennych chi gynlluniau eraill.

    يخضع أي عمل لعقد يحدد مسؤولياتك - مثل عدد الساعات المتوقع أن تعمل فيها كل أسبوع - وتلك الخاصة بصاحب العمل.  هذه هي حمايتك أيضًا.  على سبيل المثال ، يمكن أن يكون الفندق مفتوحًا على مدار 24 ساعة في اليوم ؛  لا تريد أن تغلق في أي وقت.  لتغطية الموظفين الآخرين الذين هم في إجازة أو مرضى ، قد يطلب منك صاحب العمل العمل لساعات إضافية ، لست ملزمًا بالموافقة.  من الواضح أنك تريد علاقات جيدة مع صاحب العمل الخاص بك ، لكن في بعض الأحيان قد يكون لديك خطط أخرى

     

 

Stori Iryna
قصة إيرينا 

 

Iryna - hotel housekeeper testimonial

Pan ddes i draw i weithio yng ngwesty Dewi Sant, roedd fy Saesneg ar lefel elfennol iawn, roedd yn rhaid i mi gyfathrebu gyda chymorth cyfieithydd ar y ffôn. Nawr rydyn ni'n defnyddio ymadroddion a geiriau sylfaenol ac rwy'n deall y geiriau syml i'w gofyn i fy nghydweithwyr.

عندما جئت للعمل في الفندق ، كانت لغتي الإنجليزية بسيطة للغاية ، وكان علي التواصل بمساعدة مترجم على الهاتف.  الآن اتحدث بعض العبارات والكلمات الأساسية وأفهم الكلمات البسيطة التي أسألها لزملائي

 

Mae dysgu iaith yn digwydd wrth gyfathrebu â chydweithwyr bob dydd.  Hefyd gwrando ar fy rheolwyr yn siarad mewn cyfarfodydd ac yn y swyddfa.  Maent bob amser yn glir ac yn syml ac yn defnyddio iaith y corff i fynegi'r ystyr weithiau.  Dw i'n gwylio'r teledu gyda'r nos.  Mae llawer o fy nghydweithwyr yn gwneud dosbarthiadau Saesneg yn eu hamser hamdden.

 تتطور اللغة عند التواصل مع الزملاء كل يوم.  استمع أيضًا إلى حديث مديري في الاجتماعات وفي المكتب.  هم دائمًا واضحون وبسيطون معي ويستخدمون لغة الجسد للتعبير عن المعنى في بعض الأحيان.  في المساء أشاهد التلفاز.  يحضر الكثير من زملائي دروسًا في اللغة الإنجليزية في أوقات فراغهم.

 

Yn y tîm cefais groeso da, cyfeillgar, helpodd pawb i sicrhau ein bod yn hapus ac yn gyfforddus.

لقد استقبلت في الفريق بشكل جيد وودود ، والجميع قام بمساعدتي.

 

Mae swydd dda, fel rwy’n ei ddeall, yn cynnwys cyfathrebu â chydweithwyr mewn lleoliad mawreddog a hardd a'r cyfle i ennill arian. Mae'r swydd hon yn rhoi annibyniaeth i mi.

الوظيفة الجيدة ، كما فهمتها ، تتكون من التواصل مع الزملاء في مكان مناسب و جيد وهي وفرصة لكسب المال.  هذه الوظيفة. تمنحني الاستقلال

 

Ymadroddion defnyddiol

مفردات مفيدة 

 

Helo

أهلا

 

Bore da

صباح الخير

 

Prynhawn da

مساء الخير

 

Noswaith dda

مساء الخير

 

Sut ’dych chi?

كيف حالك؟

 

Hwyl fawr

مع السلامه

 

Mwynhewch eich diwrnod

اتمنى لك يوما سعيدا

 

 

Geiriau defnyddiol

كلمات مفيدة

 

  • Ystafell wely
    غرفة النوم

     

    Bwrdd ochr

    طاولة جانبيه

     

    Rhesel cas dillad

    حامل الحقيبة

     

    Llenni

    ستائر

     

    Drws

    باب

     

     

    Gwely

    سرير

     

    Duvet

    لحاف

     

    Cynfas

    شرشف سرير

     

    Gobennydd

    وسادة

     

    Clustog

    وسادة

     

    Blanced

    بطانية

     

    Bwrdd wrth ymyl y gwely

    طاولة السرير جانبية

     

    Lamp wrth ymyl y gwely

    مصباح السرير

     

     

    Cwpwrdd dillad

    خزانة الملابس

     

    Cambren

    حامل المعطف (علاق)

     

    Bwrdd smwddio

    طاولة الكي

     

    Haearn

    مكواة

    Bag golchi dillad

    سلة غسيل

     

     

    Hambwrdd te
    صينية الشاي

     

    Tegell

    غلاية ماء

     

    Te

    شاي

     

    Coffi

    قهوة

     

    Siwgr

    سكر

     

    Bisgedi

    بسكويت

     

     

    Teledu
    التلفزيون

     

    Teclyn rheoli’r teledu

    جهاز التحكم عن بعد للتلفزيون

Bedroom - Arabic CY

 

  • Ystafell ymolchi
    الحمام

     

    Drych

    مرآة

     

    Bidet

    شطاف

     

    Bin sbwriel

    سله قمامه

     

     

    Baddon

    الحمام

     

    Tapiau

    حنفية

     

    Mat baddon

    سجادة الحمام

     

    Sebon

    صابون

     

    Siampŵ

    شامبو

     

     

    Cawod

    دش

     

    Sebon

    صابون

     

    Siampŵ

    شامبو

     

     

    Toiled

    الحمام

     

    Sedd toiled

    مقعد المرحاض

     

    Papur tŷ bach

    ورق المرحاض

     

     

    Rhesel tywelion

    حامل المناشف

     

    Tywelion

    مناشف

     

     

    Sinc

    المغسله

     

    Tapiau

    الحنفيات

     

    Sebon

    الصابون

Bathroom - Arabic CY