Mae'r prif adeilad yn adeilad deulawr sy'n cynnwys cegin a thai bach ynghyd â nifer o ystafelloedd a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel ystafelloedd cyfarfod/swyddfeydd gyda golygfeydd ffafriol i'r de drwy’r Ffenestri Bae.
Ystyrir Gerddi’r Cymin yn un o nifer o fannau agored pwysig yn Ardal Gadwraeth Penarth ac felly bwriedir cadw gweddill y tiroedd ym mherchnogaeth y Cyngor ar gyfer mynediad parhaus i'r cyhoedd. Nid yw Kymin House ei hun wedi'i restru, ond mae wedi'i nodi fel "Trysor Sirol".
Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod unrhyw ddefnydd o'r Cymin a'i erddi yn y dyfodol yn parchu ei statws "Trysor Sirol", yn diogelu neu'n gwella Ardal Gadwraeth Penarth, ac yn sensitif i amwynder yr ardaloedd preswyl cyfagos.