Hafan >
Cynlluniau Ariannu Strwythurol Ewropeaidd
Cynlluniau Cronfa Strwythurol Ewropeaidd
Bu Bro Morgannwg yn cymhwyso i dderbyn Ariannu Strwythurol Ewropeaidd yn unol â thelerau Cynllun Cystadlu a Chyflogi Rhanbarthol 2007-2013
Nodwch: mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys ar gyfer yr Amcan ‘Cydgyfeiriad’, sef olynydd Cynllun Amcan Un gynt.
Mae’r Cynllun Cystadlu a Chyflogi Rhanbarthol ar gyfer Dwyrain Cymru yn cynnwys Awdurdodau Unedol: Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Bu oddeutu £97 miliwn o arian Ewropeaidd ar gael i Ddwyrain Cymru rhwng 2007-2013 yn unol â thelerau’r Cynllun Cystadlu, fel y’i gelwir erbyn hyn. Datblygwyd blaenoriaethau’r arian i hwyluso gwireddu’r weledigaeth o greu rhanbarth ffyniannus, cynhyrchiol a chystadleuol ac ynddo weithlu medrus ac arloesol a allai gystadlu ar lefel ryngwladol.
Datblygwyd dau Gynllun Gweithredu ar gyfer Dwyrain Cymru; y naill ar gyfer Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop a’r llall ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae pedair blaenoriaeth ar gyfer Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop:
-
Blaenoriaeth un - Gwybodaeth ac Arloesi i hybu Twf
Hyrwyddo economi o werth uchel, trwy wella defnydd gwybodaeth ac arloesi i dyfu, gan ganolbwyntio ar gynyddu buddsoddiad cwmnïau mewn ymchwil a datblygu.
Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:
- cynorthwyo cwmnïau i fanteisio ar ymchwil, gan ddatblygu gwasanaethau a phrosesau newydd
- hyfforddi rheolwyr i ddeall sut i arloesi i fanteisio ar ymchwil
- cymorth i hyrwyddo’r gwasanaethau sydd wedi cael eu datblygu yn sgil yr ymchwil
- cymorth i sicrhau cydweithredu llwyddiannus rhwng sefydliadau addysgiadol a chwmnïau ym maes ymchwil
- arwain cwmnïau at ffynonellau ariannol - benthyciadau, cymhorthdal ac yn y blaen
- hyrwyddo’r defnydd gorau o’r dechnoleg gwybodaeth ddiweddaraf.
-
Blaenoriaeth dau – Cystadleugarwch a Thwf
Hyrwyddo economi o werth uchel, trwy gynorthwyo tyfiant busnesau presennol a newydd, yn enwedig rhai sydd â’r gallu i ehangu’n gyflym.
Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:
- cynorthwyo busnesau bach a chanolig, a mentrau cymdeithasol, i brynu gwasanaethau cefnogi busnes yn ddoeth o’r farchnad rydd
- os nad yw’r gwasanaethau ar gael ar y farchnad rydd, sefydlu’r ddarpariaeth a’i thargedu at y cwmniau fydd yn elwa ohoni
- dod o hyd i bobl â’r gallu i fod yn fentergarwyr ond sydd mewn sefyllfaoedd anfanteisiol – er enghraifft, mamau sengl – a sicrhau fod y gwasanaethau ar gael iddyn nhw
- canolbwyntio ar fentrau cymdeithasol – marchnata, ymgyrch cynyddu ymwybyddiaeth, ymarfer gorau, ymchwil i gyfleoedd newydd, cysylltu â’r sector breifat ac yn y blaen
- darparu arian buddsoddiad cyhoeddus/preifat, o fewn cyd-destun cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad
- darparu cymorth i oresgyn y rhwystrau, er enghraifft costau dechrau busnes.
-
Blaenoriaeth tri – Mynd i'r afael â Newid Hinsawdd
Cefnogi datblygu ynni glan ac adnewyddol, annog arbed ynni, annog arbed adnoddau a rheoli peryglon a chyfyngiadau amgylcheddol.
Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:
- cefnogi busnesau bach iawn, bach a chanolog a mentrau cymdeithasol i ddatblygu technoleg ynni adnewyddol ac ynni effeithlon ac i annog mabwysiadu technoleg creu ynni
- annog cwmnïau i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon drwy ddatblygu technoleg effeithlon neu ddulliau cynhyrchu effeithlon
- rhannu ymarfer gorau gyda’r cyhoedd – er enghraifft ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd
- rhannu ymarfer da trwy rwydweithiau cyfathrebu a sectorau eraill
- annog cwmnïau i ddefnyddio llai o adnoddau a thrwy hynny mynd i’r afael â newid hinsawdd ac arbed arian a hyd yn oed ennill arian drwy, er enghraifft, gwerthu trydan a gynhyrchwyd gan baneli solar.
-
Blaenoriaeth pedwar – Adfywio er mwyn Twf
Cefnogaeth, wedi ei hanelu’n ofalus a chywir, ar gyfer adfywio cymunedau difreintiedig. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau cydweithio effeithiol rhwng pawb perthnasol.
Dyma rai o’r gweithgareddau fydd efallai’n derbyn ein cymorth:
- gwella tirlun, a mynediad i, bentrefi a threfi – er enghraifft adfywio llefydd cyhoeddus a mynd i’r afael â llygredd lleol. O dan amgylchiadau neilltuol, mae’n bosib y bydd arian ar gael i dalu am gyfleusterau parcio a ffyrdd os ydyn nhw’n hollbwysig i lwyddiant y datblygiad
- datblygu safleoedd bach, neu datblygu’r cyfleusterau ar gyfer datblygu safleoedd bach
- sicrhau bod pob safle’n cydfynd â safonau amgylcheddol BREEAM ac anghenion pobl anabl
- sicrhau cyfraniad y gymuned leol drwy darparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer pobl leol er mwyn sicrhau fod pawb yn rhan o’r gwaith o adfywio’r ardal.
Mae dwy flaenoriaeth ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop:
Trosglwyddo
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cyfundrefn fwy strategol i drosglwyddo rhaglenni newydd, gan gytuno ar gyfres o egwyddorion i lywio datblygu a throsglwyddo'r rhaglenni.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod rhaglenni’n cyd-fynd â pholisïau perthnasol y Llywodraeth, gyda mwy o bwyslais ar gydweithredu isranbarthol wrth lunio’r polisïau a’r rhaglenni.
Penderfynwyd hefyd y dylid ariannu llai o raglenni ond dros fwy o amser er mwyn sicrhau parhad a rhoi cyfle i raglenni “gartrefu” a datblygu’n naturiol. Y bwriad yw darparu golwg cyffredinol eglur, cymorth a chyngor i raglenni.
Y strategaethau a ddatblygwyd i drosglwyddo blaenoriaethau rhaglenni’r Undeb Ewropeaidd. Maen nhw’n arfau cynllunio, nid arfau ariannu. Maen nhw’n cynnig cymorth a chanllawiau ar gyfer pobl sy’n datblygu rhaglenni perthnasol. Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru – corff annibynnol - sy’n dewis pa raglenni sy’n cael eu cymeradwyo; mae hyn yn sicrhau blaenoriaethu tecach i bawb.
Dyma’r strategaethau perthnasol i Fro Morgannwg:
Cystadlu rhyngranbarthol a swyddi
- arloesi, ymchwil a datblygu, technoleg
- mentergarwch
- ariannu busnesau
- newid hinsawdd
- cynyddu cyflogaeth a mynd i’r afael â llesgedd economaidd
- cynyddu galluoedd a hyblygrwydd gweithwyr.
Mae mwyafrif y fframweithiau’n thematig neu’n ymarferol, yn hytrach na fod ynghlwm wrth ardal benodol, ef fod cyfraniadau lleol yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y nod.
Bydd cynghorau’n trosglwyddo’r rhaglenni drwy:
- cyfrannu at ddatblygu ac arolygu’r fframweithiau
- cyfrannu gwybodaeth leol
- cydweithio â’r timoedd Ewropeaidd
- gwaith datblygu cynlluniau lleol
- ymgeisio am elfennau o’r prosiectau trwy Sell2Wales.