GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.
Hysbysiad o Gyfarfod PWYLLGOR SAFONAU
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod DYDD IAU, 21 TACHWEDD, 2024 AM 10.00 A.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
Agenda
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2024.
[Gweld Cofnod]
3. Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.
(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –
4. Ceisiadau am Ganiatâd.
[Gweld Cofnod]
5. Adolygiad Annibynnol o Ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Cwynion Cod Ymddygiad.
[Gweld Cofnod]
6. Adroddiad Diweddaru Fforwm Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau Cenedlaethol Cymru.
[Gweld Cofnod]
7. Gohebiaeth ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
[Gweld Cofnod]
8. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
Adroddiad Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –
9. Gohebiaeth ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
[Gweld Cofnod]
10. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
15 Tachwedd, 2024
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985
Arolygu papurau cefndir: Yn yr achos cyntaf dylid ymholi K. Bowen (Ffôn: 01446 709856).
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I Aelodau’r Pwyllgor Safonau
Y Cynghorwyr: R.M. Birch, J.E. Charles a C.P. Franks
Aelodau Annibynnol:
R. Hendicott (Cadeirydd)
L. Tinsley (Is-gadeirydd)
R. Alexander
G. Olphert
G. Watkins
Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned:
Cynghorydd P. Summers
SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.
Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein. Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.
Cyfarfodydd a gynhelir o Bell
Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e. o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny. Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.
Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709856
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx