Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.
Hysbysiad o Gyfarfod PWYLLGOR SAFONAU
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod DYDD IAU, 17 MAWRTH, 2022 AM 10.00 A.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
Agenda
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
[Gweld Cofnod]
2. Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2022.
3. Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
Adroddiadau’r Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –
4. Cais am Ganiatâd.
5. Trosolwg a Gwersi a Ddysgwyd o Sylwadau gan Aelodau Annibynnol o Gyfarfodydd Pwyllgorau Cynghorau Tref a Chymuned.
6. Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau.
7. Diwygiadau i Gylch Gorchwyl Pwyllgor Cyfansoddiad a Safonau’r Cyngor.
8. Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: Canllawiau Statudol Safonau Ymddygiad.
9. Cynhadledd Safonau Cymru: Chwefror 2022 – Adroddiad Diweddaru.
10. Diweddariad yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Sili a Larnog a'r Swyddog Monitro ynghylch Adroddiad Archwilio Cymru ar Ddigonolrwydd o ran Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol.
11. Gohebiaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
12. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
13. Gohebiaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
14. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
11 Mawrth, 2022
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985
Arolygu papurau cefndir: Yn yr achos cyntaf dylid ymholi K. Bowen (Ffôn: 01446 709856).
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I Aelodau’r Pwyllgor Safonau
Y Cynghorwyr: R.M. Birch, B.T. Gray ac A.R. Robertson
Aelodau Annibynnol:
R. Hendicott (Cadeirydd)
L. Tinsley (Is-gadeirydd)
R. Alexander
P. Hallett
G. Watkins
Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned:
Y Cynghorydd M. Cuddy
SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol. Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’ sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.
Yn weithredol o 5 Mai 2022 er mwyn cydymffurfio ag Adrannau 46 a 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bydd rhai cyfarfodydd yn gofyn i’r rhai sy’n bresennol allu “i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ". Mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd a TGCh yn gweithio i sicrhau y cedwir at ofynion Adrannau 46 a 47 yn barod ar gyfer 5 Mai 2022.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709856.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx