GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o Gyfarfod CYFARFOD BLYNYDDOL CYDBWYLLGOR Y GWASANAETHAU RHEOLIADOL A RENNIR
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod DYDD MAWRTH, 28 MEHEFIN, 2022 AM 10.00 A.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
Agenda
RHAN I
1. Penodi Cadeirydd.
[Gweld Cofnod]
2. Penodi Is-gadeirydd.
[Gweld Cofnod]
3. Ymddiheuriadau am absenoldebau.
[Gweld Cofnod]
4. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2022.
[Gweld Cofnod]
5. Derbyn datganiadau o ddiddordeb.
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 -
6. Datganiad o Gyfrifon 2021/22 heb eu Harchwilio Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir [Gweld Atodiad A]
[Gweld Cofnod]
7. Archwilio Cymru 2022 Cynllun Archwilio.
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai –
8. Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
[Gweld Cofnod]
9. Cynllun Busnes Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
[Gweld Cofnod]
10. Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Iechyd a Diogelwch 2022/23.
[Gweld Cofnod]
11. Unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd (Rhan I).
RHAN II
GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
12. Unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
21 Mehefin, 2022
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg
Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985 –
Archwilio papurau’r cefndir: dylid cyfeirio ymholiadau cychwynnol at
Mrs. K. Bowen, Rhif ffôn: Y Barri (01446) 709249
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I Aelodau Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
- Cynghorwyr Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr – Y Cynghorwyr R. Goode a M. Lewis
- Cyngor Caerdydd – Y Cynghorwyr D. De’Ath a M. Michael
- Cyngor Bro Morgannwg – Y Cynghorwyr P. Drake a R. Sivagnanam
SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol. Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’ sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709249.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx