Cost of Living Support Icon

 GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod      PWYLLGOR CRAFFU DYSGU A DIWYLLIANT

 

Dyddiad ac amser

Y Cyfarfod                     DYDD LLUN, 8 GORFFENNAF, 2024 AM 6.00 P.M. 

 

 

Lleoliad                         CYFARFOD HYBRID

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.        Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

DS: Gofynnir i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno cofrestru i siarad ar unrhyw eitem ar yr agenda isod gofrestru i siarad drwy wefan Cyngor y Fro a rhoi sylw i Bolisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor a’r Canllaw Cyfranogiad Craffu.

 

Cyflwyniad –

3.        Diweddariad ar Gynnydd y Cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg – Consortiwm Canolbarth y De.

 

Adroddiadau’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau –

4.        Adroddiad Blynyddol Llyfrgelloedd.

5.        Adroddiad Monitro Cynllun Cyflawni Blynyddol: Perfformiad Chwarter 4 2023/24 [Gweld Atodiad B Diwygiedig].

(Atgoffir Aelodau i hysbysu’r Adain Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu erbyn 12 canol dydd ar ddiwrnod y cyfarfod fan bellaf os ydynt angen presenoldeb swyddogion ar gyfer Monitro Perfformiad)

 

6.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

7.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

26 Mehefin, 2024

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985.

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi G. Davies, Ffôn: 01446 709249

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Pwyllgor Craffu Dysgu a Diwylliant
Cadeirydd: Cynghorydd R.R. Thomas;

Cynghorwyr: A. Asbrey, S. Campbell, W. Gilligan, E.J. Goodjohn, E. Goodjohn, S.J. Haines, W.A. Hennessy, N.P. Hodges, J. Lynch-Wilson, N.B. Marshallsea a H.M. Payne

 

Gwahoddir hefyd fel aelodau cyfetholedig:

R. Morteo (Yr Eglwys yng Nghymru).

Dr. M. Price (Yr Eglwys Babyddol).

L. Barrowclough (Rhiant-lywodraethwr – Sector Cynradd).

G. Van der Burgt (Rhiant-lywodraethwr – Sector Uwchradd).

 

Gwahoddir hefyd fel arsylwyr dibleidlais:

G. Scott (Addysg Gymraeg).

A. Emmerson (Fforwm Ieuenctid y Fro).

R. Goodjohn (Fforwm Ieuenctid y Fro).

E. Woodfield (Cyngor Ieuenctid y Fro)

I. Da Silva (Cyngor Ieuenctid y Fro)

 

Rôl wag (Cynradd).

Rôl wag (Uwchradd).

Rôl wag (Arbennig).

Rôl wag (Penaethiaid).

Rôl wag (Eglwysi Rhyddion).

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx