Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod      PWYLLGOR CYNLLUNIO ARBENNIG

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                     DYDD IAU, 5 MEDI, 2024 AM 4.30 P.M.

 

Lleoliad                         CYFARFOD HYBRID

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor (gan gynnwys datganiadau chwipio).

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

DS: Gofynnir i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno siarad ar unrhyw gais Cynllunio isod gofrestru i siarad drwy wefan Cyngor y Fro erbyn 5.00 p.m. fan bellaf. ar y Sul cyn dyddiad y cyfarfod ac ystyried Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor a Chyfranogiad y Cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor

 

Adroddiad Pennaeth Datblygu Cynaliadwy –

 

Planning Applications

 

Rhif Tudalen

3.       Ceisiadau Cynllunio:

 

          2024/00306/FUL

[Gweld Cofnod]

Tir I’r De o Hood Road, y Barri 

[Gweld Cynlluniau]

[Gweld Materion yn Codi]

[Gweld Ffotograffau]

2

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

23 Awst, 2024

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi

M. Thomas (01446) 709279

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio

Cadeirydd: Cynghorydd N.C. Thomas;

Is-gadeirydd: Cynghorydd M.R. Wilson;

Y Cynghorwyd: J. Aviet, G. Bruce, I.R. Buckley, C.A. Cave, C.E.A. Champion, C.M. Cowpe, P. Drake, A.M. Ernest, W. Gilligan, N.P. Hodges, Dr. I.J. Johnson, H.M. Payne, I.A.N. Perry, C. Stallard ac E. Williams

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e. o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod

 

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx