Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod    IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU STATUDOL

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                    DYDD IAU, 31 HYDREF, 2024 AM 10.00 A.M.

 

 

Lleoliad                        CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

 

1.       Penodi Cadeirydd.

 

2.       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

Adroddiadau’r Awdurdod Trwyddedu -

3.       Deddf Trwyddedu 2003 – Caniatáu Trwydded Safle – View 62, Friars Road, y Barri, CF62 5TR. [Gweld Gweithdrefin] [Gweld Gwybodaeth Atodol] [Gweld Gwybodaeth Atodol Ychwanegol]

 

 

Yn unol ag Adran 18(3)(a) Deddf Trwyddedu 2003, gallai’r Gwrandawiad hwn gael ei hepgor os yw’r Awdurdod Trwyddedu, yr Ymgeisydd a phawb sydd wedi cyflwyno sylw’n cytuno bod y Gwrandawiad yn ddiangen ar ôl proses Gyfryngu.  Gallai hyn ddigwydd hyd at 24 awr cyn i’r Gwrandawiad ddechrau.  Byddai felly’n syniad cysylltu â’r swyddog a enwir ar ddiwedd yr agenda i sicrhau bod y Gwrandawiad yn dal i gael ei gynnal.

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

 

25 Hydref, 2024

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. 

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

M. Thomas (Tel: 01446 709279)

E-bost: Democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

I Holl Aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu:

Y Cynghorwyr P. Drake, M.J.G. Morgan a J.M. Norman.

 

(Aelod Wrth Gefn: Cynghorydd W.A. Hennessy)

 

                              

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor

ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb ddim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709855

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx