Hysbysiad o Gyfarfod IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU STATUDOL
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod DYDD GWENER, 11 MAWRTH, 2022 AM 10.00 A.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
Agenda
1. Penodi Cadeirydd.
[Gweld Cofnod]
2. Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Awdurdod Trwyddedu -
3. Deddf Trwyddedu 2003 – Cais ar gyfer Cymeradwyo Trwydded Safle – Barry West End Club and Institute, 54 St Nicholas Road, Y Barri, CF62 6QY.
[Gweld Cofnod]
Yn unol ag Adran 18(3)(a) Deddf Trwyddedu 2003, gallai’r Gwrandawiad hwn gael ei hepgor os yw’r Awdurdod Trwyddedu, yr Ymgeisydd a phawb sydd wedi cyflwyno sylw’n cytuno bod y Gwrandawiad yn ddiangen ar ôl proses Gyfryngu. Gallai hyn ddigwydd hyd at 24 awr cyn i’r Gwrandawiad ddechrau. Byddai felly’n syniad cysylltu â’r swyddog a enwir ar ddiwedd yr agenda i sicrhau bod y Gwrandawiad yn dal i gael ei gynnal.
Rob Thomas
Prif Weithredwr
4 Mawrth, 2022
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985.
Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi
Ms. A. Rudman (Tel: 01446 709855)
E-bost: Democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I Holl Aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu:
Y Cynghorwyr R. Crowley, K.F. McCaffer a J.W. Thomas
SYLWCH:
Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol. Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’ sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.
Yn weithredol o 5 Mai 2022 er mwyn cydymffurfio ag Adrannau 46 a 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bydd rhai cyfarfodydd yn gofyn i’r rhai sy’n bresennol allu “i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ". Mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd a TGCh yn gweithio i sicrhau y cedwir at ofynion Adrannau 46 a 47 yn barod ar gyfer 5 Mai 2022.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709855.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx